(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Cerbydau Modur (Cystadlaethau a Threialon) 1969 (O.S. 1969/414) (“Rheoliadau 1969”). Mae’r diwygiadau hyn yn gymwys mewn perthynas â digwyddiadau sy’n digwydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru y gwneir cais am awdurdodiad o dan Reoliadau 1969 mewn cysylltiad â hwy ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym. Pan fo digwyddiad yn digwydd yn rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn rhywle arall, dim ond i’r rhan sy’n digwydd yng Nghymru y mae’r diwygiadau yn gymwys.
Mae’r Rheoliadau yn penodi “the Royal Automobile Club Motor Sports Association Limited” (yn lle “the Royal Automobile Club”) fel y corff awdurdodi ar gyfer digwyddiadau o’r fath. Maent yn caniatáu i “the Royal Automobile Club Motor Sports Association Limited” benderfynu ar ei ffioedd ei hunan am geisiadau. Ni chaniateir i unrhyw ffi y penderfynir arni fod yn fwy na swm rhesymol. Mae’n ofynnol cyhoeddi lefelau ffioedd ac ni chaniateir eu cynyddu oni chyhoeddir manylion unrhyw gynnydd o leiaf 3 mis cyn iddo gymryd effaith. Maent hefyd yn diwygio’r rhestr o ddigwyddiadau penodedig yn Atodlen 4 i Reoliadau 1969 drwy ailenwi un o’r digwyddiadau penodedig.
Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.