xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2013 No. 2496 (Cy. 244)

Traffig Ffyrdd, Cymru

Rheoliadau Cerbydau Modur (Cystadlaethau a Threialon) (Diwygio) (Cymru) 2013

Gwnaed

30 Medi 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Hydref 2013

Yn dod i rym

25 Hydref 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth gan adran 13 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988(1), a drosglwyddwyd wedi hynny i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), ac ar ôl ymgynghori â’r cyrff cynrychioliadol hynny yr oeddent yn eu hystyried yn briodol yn unol ag adran 195(2) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cerbydau Modur (Cystadlaethau a Threialon) (Diwygio) (Cymru) 2013 a deuant i rym ar 25 Hydref 2013.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1969” (“the 1969 Regulations”) yw Rheoliadau Cerbydau Modur (Cystadlaethau a Threialon) 1969(3).

Cymhwyso

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â digwyddiadau sy’n digwydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru y gwneir cais am awdurdodiad o dan Reoliadau 1969 mewn cysylltiad â hwy ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

(2Pan fo digwyddiad yn digwydd yn rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn rhywle arall, dim ond i’r rhan sy’n digwydd yng Nghymru y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys.

Diwygio Rheoliadau 1969

3.  Mae Rheoliadau 1969 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 4 i 7.

Corff awdurdodi

4.  Yn Rheoliadau 1969 (ac eithrio yn rheoliad 3 ac Atodlen 4) yn lle’r geiriau “Royal Automobile Club”, ym mha le bynnag y maent yn ymddangos, rhodder y geiriau “Royal Automobile Club Motor Sports Association Limited”.

Ffioedd

5.  Yn lle rheoliad 8 rhodder—

Fees

8.(1) It is a condition of any authorisation of an event by the Royal Automobile Club Motor Sports Association Limited (in this regulation referred to as “the authorising body”) that a fee is paid to the authorising body of such amount as may be determined by that body.

(2) A fee determined under paragraph (1) must not exceed a reasonable amount.

(3) When determining any fee under paragraph (1) the authorising body may determine different fees for different classes or descriptions of event.

(4) The authorising body must publish, in such manner as it considers appropriate for informing persons likely to be affected, the levels of any fees which it has determined in accordance with paragraph (1) as they apply from time to time.

(5) The authorising body may not increase any fee determined under paragraph (1) unless details of the increase are published in accordance with paragraph (4) not less than 3 months before the date on which the increase takes effect.

Cais am awdurdodiad

6.  Yn Atodlen 2 yn lle “31 Belgrave Square, London, SW1” rhodder “Motor Sports House, Riverside Park, Colnbrook, SL3 OHG”.

Digwyddiadau penodedig

7.  Yn Atodlen 4, o dan y golofn “Title of event” yn lle “International Six Days’ Trial.” rhodder “International Six Days’ Enduro.”

Edwina Hart

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

30 Medi 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Cerbydau Modur (Cystadlaethau a Threialon) 1969 (O.S. 1969/414) (“Rheoliadau 1969”). Mae’r diwygiadau hyn yn gymwys mewn perthynas â digwyddiadau sy’n digwydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru y gwneir cais am awdurdodiad o dan Reoliadau 1969 mewn cysylltiad â hwy ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym. Pan fo digwyddiad yn digwydd yn rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn rhywle arall, dim ond i’r rhan sy’n digwydd yng Nghymru y mae’r diwygiadau yn gymwys.

Mae’r Rheoliadau yn penodi “the Royal Automobile Club Motor Sports Association Limited” (yn lle “the Royal Automobile Club”) fel y corff awdurdodi ar gyfer digwyddiadau o’r fath. Maent yn caniatáu i “the Royal Automobile Club Motor Sports Association Limited” benderfynu ar ei ffioedd ei hunan am geisiadau. Ni chaniateir i unrhyw ffi y penderfynir arni fod yn fwy na swm rhesymol. Mae’n ofynnol cyhoeddi lefelau ffioedd ac ni chaniateir eu cynyddu oni chyhoeddir manylion unrhyw gynnydd o leiaf 3 mis cyn iddo gymryd effaith. Maent hefyd yn diwygio’r rhestr o ddigwyddiadau penodedig yn Atodlen 4 i Reoliadau 1969 drwy ailenwi un o’r digwyddiadau penodedig.

Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1988 p.52; diwygiwyd adran 13(4) gan baragraff 46 o Atodlen 4 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth mewn perthynas ag adran 13 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan ddarpariaethau Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999 Rhif 672).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

O.S. 1969/414: yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1974/1674, 1976/1657, 1982/1103, 1993/2233.