Rheoliadau Cerbydau Modur (Digwyddiadau Oddi ar y Ffordd) (Diwygio) (Cymru) 2013
Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cerbydau Modur (Digwyddiadau Oddi ar y Ffordd) (Diwygio) (Cymru) 2013 a deuant i rym ar 25 Hydref 2013.
(2)
Cymhwyso2.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â digwyddiadau sy’n digwydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru y gwneir cais am awdurdodiad o dan Reoliadau 1995 mewn cysylltiad â hwy ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
(2)
Pan fo digwyddiad yn digwydd yn rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn rhywle arall, dim ond i’r rhan sy’n digwydd yng Nghymru y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys.
Diwygio Rheoliadau 19953.
Mae Rheoliadau 1995 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 4 a 5.
Cyrff awdurdodi4.
Yn rheoliad 3—
(a)
yn lle “Association of Rover Clubs Limited” rhodder “Association of Land Rover Clubs Limited”;
(b)
yn lle “the Auto-Cycle Union” rhodder “Auto-Cycle Union Limited”; ac
(c)
yn lle “the Royal Automobile Club” rhodder “the Royal Automobile Club Motor Sports Association Limited”.
Ffioedd5.
“(3)
Any fee determined by an authorising body must not exceed a reasonable amount.
(4)
An authorising body must publish, in such manner as it considers appropriate for informing persons likely to be affected, the levels of any fees which it has determined in accordance with paragraph (1) as they apply from time to time.
(5)
An authorising body may not increase any fee unless details of the increase are published in accordance with paragraph (4) not less than 3 months before the date on which the increase takes effect.”
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cerbydau Modur (Digwyddiadau Oddi ar y Ffordd) 1995 (O.S. 1995/1371) (“Rheoliadau 1995”). Mae’r diwygiadau hyn yn gymwys mewn perthynas â digwyddiadau moduro sy’n digwydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru y gwneir cais am awdurdodiad o dan Reoliadau 1995 mewn cysylltiad â hwy ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym. Pan fo digwyddiad yn digwydd yn rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn rhywle arall, dim ond i’r rhan sy’n digwydd yng Nghymru y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys.
Mae rheoliad 4 yn diwygio’r rhestr o gyrff a benodir i awdurdodi digwyddiadau oddi ar y ffordd yng Nghymru. Mae’r newidiadau fel a ganlyn:
mae “Association of Land Rover Clubs Limited” yn disodli “Association of Rover Clubs Limited”;
mae “Auto-Cycle Union Limited” yn disodli “the Auto-Cycle Union”; ac
mae “the Royal Automobile Club Motor Sports Association Limited” yn disodli “the Royal Automobile Club”.
Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ychwanegol mewn perthynas â gosod ffioedd am geisiadau gan y cyrff awdurdodi. Ni chaniateir i unrhyw ffi y penderfynir arni fod yn fwy na swm rhesymol. Mae’n ofynnol cyhoeddi lefelau ffioedd ac ni chaniateir eu cynyddu oni chyhoeddir manylion unrhyw gynnydd o leiaf 3 mis cyn iddo gymryd effaith.
Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.