Offerynnau Statudol Cymru
2013 Rhif 2494 (Cy. 243)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Rheoliadau Cerbydau Modur (Digwyddiadau Oddi ar y Ffordd) (Diwygio) (Cymru) 2013
Gwnaed
30 Medi 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Hydref 2013
Yn dod i rym
25 Hydref 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth gan adran 13A o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988(1), a drosglwyddwyd wedi hynny i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), ac ar ôl ymgynghori â’r cyrff cynrychioliadol hynny yr oeddent yn eu hystyried yn briodol yn unol ag adran 195(2) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cerbydau Modur (Digwyddiadau Oddi ar y Ffordd) (Diwygio) (Cymru) 2013 a deuant i rym ar 25 Hydref 2013.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1995” (“the 1995 Regulations”) yw Rheoliadau Cerbydau Modur (Digwyddiadau Oddi ar y Ffordd) 1995(3).
Cymhwyso
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â digwyddiadau sy’n digwydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru y gwneir cais am awdurdodiad o dan Reoliadau 1995 mewn cysylltiad â hwy ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
(2) Pan fo digwyddiad yn digwydd yn rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn rhywle arall, dim ond i’r rhan sy’n digwydd yng Nghymru y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys.
Diwygio Rheoliadau 1995
3. Mae Rheoliadau 1995 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 4 a 5.
Cyrff awdurdodi
4. Yn rheoliad 3—
(a)yn lle “Association of Rover Clubs Limited” rhodder “Association of Land Rover Clubs Limited”;
(b)yn lle “the Auto-Cycle Union” rhodder “Auto-Cycle Union Limited”; ac
(c)yn lle “the Royal Automobile Club” rhodder “the Royal Automobile Club Motor Sports Association Limited”.
Ffioedd
5. Yn rheoliad 5 ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(3) Any fee determined by an authorising body must not exceed a reasonable amount.
(4) An authorising body must publish, in such manner as it considers appropriate for informing persons likely to be affected, the levels of any fees which it has determined in accordance with paragraph (1) as they apply from time to time.
(5) An authorising body may not increase any fee unless details of the increase are published in accordance with paragraph (4) not less than 3 months before the date on which the increase takes effect.”
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
30 Medi 2013
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cerbydau Modur (Digwyddiadau Oddi ar y Ffordd) 1995 (O.S. 1995/1371) (“Rheoliadau 1995”). Mae’r diwygiadau hyn yn gymwys mewn perthynas â digwyddiadau moduro sy’n digwydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru y gwneir cais am awdurdodiad o dan Reoliadau 1995 mewn cysylltiad â hwy ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym. Pan fo digwyddiad yn digwydd yn rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn rhywle arall, dim ond i’r rhan sy’n digwydd yng Nghymru y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys.
Mae rheoliad 4 yn diwygio’r rhestr o gyrff a benodir i awdurdodi digwyddiadau oddi ar y ffordd yng Nghymru. Mae’r newidiadau fel a ganlyn:
(a)mae “Association of Land Rover Clubs Limited” yn disodli “Association of Rover Clubs Limited”;
(b)mae “Auto-Cycle Union Limited” yn disodli “the Auto-Cycle Union”; ac
(c)mae “the Royal Automobile Club Motor Sports Association Limited” yn disodli “the Royal Automobile Club”.
Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ychwanegol mewn perthynas â gosod ffioedd am geisiadau gan y cyrff awdurdodi. Ni chaniateir i unrhyw ffi y penderfynir arni fod yn fwy na swm rhesymol. Mae’n ofynnol cyhoeddi lefelau ffioedd ac ni chaniateir eu cynyddu oni chyhoeddir manylion unrhyw gynnydd o leiaf 3 mis cyn iddo gymryd effaith.
Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1988 p.52; mewnosodwyd adran 13A gan adran 5 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas ag adran 13A o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan ddarpariaethau Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999 Rhif 672).
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
