(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Cynllun)
Mae’r Cynllun hwn yn gwneud diwygiadau i’r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007 (“y Cynllun Cymeradwyo”).
Mae’r Cynllun Cymeradwyo yn darparu ar gyfer cymeradwyo darparwyr gofal plant at ddibenion adran 12(5) o Ddeddf Credydau Treth 2002 (“y Ddeddf”). Mae gofal plant cymwys, fel y’i diffinnir yn y Cynllun Cymeradwyo, a ddarperir gan berson yn unol â’r Cynllun Cymeradwyo yn golygu gofal a ddarperir gan berson o ddisgrifiad rhagnodedig at ddibenion adran 12(4) o’r Ddeddf.
Gwneir y diwygiadau o ganlyniad i Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 er mwyn cynnwys cyfeiriad, o fewn y Cynllun Cymeradwyo, at gredyd cynhwysol yn ogystal â’r cyfeiriad presennol at gredyd treth gwaith a fydd, yn y pen draw, yn cael ei ddisodli gan gredyd cynhwysol.
Mae erthygl 2 o’r Cynllun hwn yn diwygio erthygl 9 o’r Cynllun Cymeradwyo er mwyn cynnwys gofyniad bod gwybodaeth yn cael ei darparu i’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â’i swyddogaethau sy’n ymwneud â chredyd cynhwysol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Cynllun hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Cynllun hwn.