2013 Rhif 2273 (Cy. 219)
Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol1 o dan adran 12(6) o Ddeddf Credydau Treth 20022, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 12(5) a (7) a 65(3) a (9) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y diwygiadau a ganlyn i’r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 20073.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Cynllun hwn yw Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2013.
2
Daw’r Cynllun hwn i rym ar 1 Hydref 2013.
3
Mae’r Cynllun hwn yn gymwys o ran Cymru.
4
Yn y Cynllun hwn ystyr “y Prif Gynllun” (“the Principal Scheme”) yw’r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007.
Diwygio erthygl 9 o’r Prif Gynllun2
1
Mae erthygl 9 (yr wybodaeth sydd i’w darparu gan y corff cymeradwyo) o’r Prif Gynllun wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn lle erthygl 9 rhodder—
9
1
Bydd y corff cymeradwyo yn darparu—
a
i Gomisiynydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (“CThEM”) unrhyw wybodaeth y mae arno ei hangen i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau CThEM sy’n ymwneud â chredyd treth gwaith a honno’n wybodaeth sy’n ymwneud â chymeradwyo neu wrthod cymeradwyo personau o dan y Cynllun hwn neu dynnu cymeradwyaeth y personau hynny yn ôl; a
b
i’r Ysgrifennydd Gwladol unrhyw wybodaeth y mae ei hangen ar yr Ysgrifennydd Gwladol i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol sy’n ymwneud â chredyd cynhwysol a honno’n wybodaeth sy’n ymwneud â chymeradwyo neu wrthod cymeradwyo personau o dan y Cynllun hwn neu dynnu cymeradwyaeth y personau hynny yn ôl.
2
Yn yr erthygl hon ystyr “credyd cynhwysol” yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 20124.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Cynllun)