2013 Rhif 217 (Cy. 29)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 39 a 58 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 20041.
Fel y mae’n ofynnol gan adran 39(2) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, y cymdeithasau hynny o awdurdodau lleol yr oedd yn ymddangos iddynt eu bod yn ymwneud â hyn a’r cyrff hynny o gyfrifwyr yr oedd yn ymddangos iddynt eu bod yn briodol.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: