xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Llanyrafon – Newidiadau i Wardiau Cymunedol a Newidiadau Canlyniadol i’r Trefniadau Etholiadol

6.—(1Yng nghymuned Llanyrafon—

(a)mae wardiau cymunedol presennol Gogledd Llanyrafon a De Llanyrafon wedi eu diddymu;

(b)mae wardiau cymunedol newydd Dwyrain Llanyrafon a Gorllewin Llanyrafon wedi eu creu, a ddangosir ar Fap 3 fel yr ardaloedd wedi eu marcio “Ward Dwyrain Llanyrafon” a “Ward Gorllewin Llanyrafon” yn y drefn honno;

(c)mae adrannau etholiadol presennol Gogledd Llanyrafon a De Llanyrafon wedi eu diddymu;

(d)mae adran etholiadol newydd Gorllewin Llanyrafon wedi ei chreu, gan gynnwys ward gymunedol newydd Gorllewin Llanyrafon;

(e)mae adran etholiadol newydd Dwyrain Llanyrafon a Phonthir wedi ei chreu, gan gynnwys ward gymunedol newydd Dwyrain Llanyrafon a chymuned bresennol Ponthir;

(f)1 yw nifer y cynghorwyr cymuned sydd i’w hethol ar gyfer ward Dwyrain Llanyrafon a 3 yw’r nifer ar gyfer ward Gorllewin Llanyrafon; ac

(g)1 yw nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer adran etholiadol Dwyrain Llanyrafon a Phonthir ac 1 yw’r nifer ar gyfer adran etholiadol Gorllewin Llanyrafon.