2013 Rhif 2156 (Cy. 211)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Torfaen (Cymunedau) 2013

Gwnaed

Mae’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721, adroddiad dyddiedig Ionawr 2013 ar adolygiad a gynhaliwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen o’r ffiniau cymunedol yn Sir Torfaen, ynghyd â’r cynigion y mae’r Comisiwn wedi eu llunio ar y ffiniau cymunedol.

Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i’r cynigion hynny heb eu haddasu.

Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i’r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau hynny a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru2.