2013 Rhif 2155 (Cy. 210)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu (Gwaddolion Addysgol) (Llanfihangel Nant Brân) (Cymru) 2013

Gwnaed

Yn dod i rym

Dangoswyd er boddhad i Weinidogion Cymru bod y Gwaddol yn cael ei ddal neu wedi ei ddal mewn cysylltiad â darparu addysg grefyddol yn unol â daliadau’r Eglwys yng Nghymru mewn ysgol wirfoddol, o fewn ystyr “voluntary school” yn adran 32 o Ddeddf Addysg 19961, y peidiwyd â defnyddio ei mangre at ddibenion ysgol.

Mae cais i Weinidogion Cymru am Orchymyn i wneud darpariaeth newydd ar gyfer defnyddio’r Gwaddol wedi ei wneud gan Ymddiriedolaeth Esgobaethol Abertawe ac Aberhonddu, sef corff y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei fod yn awdurdod priodol yr Eglwys yng Nghymru at y diben hwnnw.

Mae hysbysiad o’r Gorchymyn arfaethedig, ac o hawl personau sydd â buddiant i gyflwyno sylwadau, wedi ei roi yn unol â darpariaethau adran 555 o Ddeddf Addysg 1996.

Cymerwyd i ystyriaeth sylwadau a gyflwynwyd gan bersonau â buddiant ynglŷn â’r Gorchymyn arfaethedig.

Mae asedau’r Sefydliad yn cynnwys y safle a ddaeth wedyn yn safle’r ysgol uchod a gynhwyswyd yn y weithred Sefydlu, a’r adeiladau ar y safle hwnnw (neu’r enillion net o’u gwerthiant), yn ogystal ag unrhyw incwm a ddeilliodd o’r asedau hynny cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Dychwelyd Safleoedd 19872 cododd ymddiriedolaeth, neu gall fod ymddiriedolaeth wedi codi, mewn perthynas â’r safle a ddaeth wedyn yn safle’r ysgol uchod a gynhwyswyd yn y weithred Sefydlu. Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod pob cam rhesymol ymarferol wedi ei gymryd i ddod o hyd i unrhyw berson sydd, neu a all ddod yn rhywun sydd, â hawl fel buddiolwr o dan yr ymddiriedolaeth honno, ac nad oes unrhyw hawliad gan unrhyw berson o’r fath sy’n dod o fewn darpariaethau adran 5(2)(a) o Ddeddf Dychwelyd Safleoedd 1987.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 554 a 556 o Ddeddf Addysg 19963 ac adran 5 o Ddeddf Dychwelyd Safleoedd 1987, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: