2013 No. 2139 (Cy. 209)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 6(4)1, 16(1)2, 17(2)3, 26(2)(a) a (3)4 a 48(1)5 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19906, a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19727.

Yn unol ag adran 48(4A)8 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at y Rheoliadau canlynol gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y’u diwygiwyd o bryd i’w gilydd—

a

Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu9;

b

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2065/2001 sy’n gosod rheolau manwl ar gymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 o ran hysbysu defnyddwyr am gynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu10;

c

Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 yn sefydlu system o reolaeth Gymunedol ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin11; a

d

Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar weithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/ 2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin12.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd13, cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bo’r Rheoliadau hyn yn cael eu paratoi a’u gwerthuso.