Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2013

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 2021 (Cy. 199)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2013

Gwnaed

15 Awst 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Awst 2013

Yn dod i rym

6 Medi 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 512ZB(4)(a)(ai), 512ZB(4)(b)(ai) a 568 o Ddeddf Addysg 1996(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2013 a daw i rym ar 6 Medi 2013.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(3); ac

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996.

Amgylchiadau rhagnodedig: cael credyd cynhwysol

2.—(1Yr amgylchiadau sydd wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 512ZB(4)(a)(ai) o Ddeddf 1996 yw bod rhiant C yn cael credyd cynhwysol ar neu ar ôl 6 Medi 2013(4).

(2Yr amgylchiadau sydd wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 512ZB(4)(b)(ai) o Ddeddf 1996 yw bod C yn cael credyd cynhwysol ar neu ar ôl 6 Medi 2013.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

15 Awst 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi, at ddibenion adran 512ZB o Ddeddf Addysg 1996, pan fo person neu ei riant yn cael credyd cynhwysol ar neu ar ôl 6 Medi 2013, ei fod o fewn adran 512ZB(4).

Mae personau sydd o fewn adran 512ZB(4) yn gymwys i gael ciniawau ysgol a llaeth am ddim pan wnaed cais ganddynt (neu ar eu rhan) fod y rhain yn cael eu darparu am ddim.

(1)

1996 p.56. Mewnosodwyd adran 512ZB gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002. Mewnosodwyd is-adran (4)(a)(ai) gan adran 31 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 a pharagraffau 37 a 39(a) o Atodlen 2 iddi. Mewnosodwyd is-adran (4)(b)(ai) gan adran 31 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 a pharagraffau 37 a 39(b) o Atodlen 2 iddi. Yn rhinwedd adran 512 o Ddeddf Addysg 1996, ystyr “prescribed” yn adran 512ZB yw wedi ei ragnodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy orchymyn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(4)

Ystyr “C” yn adran 512ZB(4) yw’r person y penderfynir ar ei gymhwystra i gael ciniawau ysgol am ddim.