Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
15 Awst 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
16 Awst 2013
Yn dod i rym
6 Medi 2013
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2013 a daw i rym ar 6 Medi 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(3); ac
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996.
2.—(1) Yr amgylchiadau sydd wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 512ZB(4)(a)(ai) o Ddeddf 1996 yw bod rhiant C yn cael credyd cynhwysol ar neu ar ôl 6 Medi 2013(4).
(2) Yr amgylchiadau sydd wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 512ZB(4)(b)(ai) o Ddeddf 1996 yw bod C yn cael credyd cynhwysol ar neu ar ôl 6 Medi 2013.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
15 Awst 2013
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi, at ddibenion adran 512ZB o Ddeddf Addysg 1996, pan fo person neu ei riant yn cael credyd cynhwysol ar neu ar ôl 6 Medi 2013, ei fod o fewn adran 512ZB(4).
Mae personau sydd o fewn adran 512ZB(4) yn gymwys i gael ciniawau ysgol a llaeth am ddim pan wnaed cais ganddynt (neu ar eu rhan) fod y rhain yn cael eu darparu am ddim.
1996 p.56. Mewnosodwyd adran 512ZB gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002. Mewnosodwyd is-adran (4)(a)(ai) gan adran 31 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 a pharagraffau 37 a 39(a) o Atodlen 2 iddi. Mewnosodwyd is-adran (4)(b)(ai) gan adran 31 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 a pharagraffau 37 a 39(b) o Atodlen 2 iddi. Yn rhinwedd adran 512 o Ddeddf Addysg 1996, ystyr “prescribed” yn adran 512ZB yw wedi ei ragnodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy orchymyn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Ystyr “C” yn adran 512ZB(4) yw’r person y penderfynir ar ei gymhwystra i gael ciniawau ysgol am ddim.