2013 Rhif 2021 (Cy. 199)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2013 a daw i rym ar 6 Medi 2013.
(2)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 20123; ac
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996.
Amgylchiadau rhagnodedig: cael credyd cynhwysol2.
(1)
Yr amgylchiadau sydd wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 512ZB(4)(a)(ai) o Ddeddf 1996 yw bod rhiant C yn cael credyd cynhwysol ar neu ar ôl 6 Medi 20134.
(2)
Yr amgylchiadau sydd wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 512ZB(4)(b)(ai) o Ddeddf 1996 yw bod C yn cael credyd cynhwysol ar neu ar ôl 6 Medi 2013.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi, at ddibenion adran 512ZB o Ddeddf Addysg 1996, pan fo person neu ei riant yn cael credyd cynhwysol ar neu ar ôl 6 Medi 2013, ei fod o fewn adran 512ZB(4).
Mae personau sydd o fewn adran 512ZB(4) yn gymwys i gael ciniawau ysgol a llaeth am ddim pan wnaed cais ganddynt (neu ar eu rhan) fod y rhain yn cael eu darparu am ddim.