Manylion Daliadau5

1

Rhaid i’r Grantî gyflwyno i Weinidogion Cymru fanylion y daliadau—

a

am y cyfnod o 10 Medi 2013 i 31 Mawrth 2014 ar 31 Gorffennaf 2014 neu cyn hynny; ac wedi hynny

b

am y cyfnod o 1 Ebrill i 31 Mawrth ar 31 Gorffennaf neu cyn hynny yn y flwyddyn y mae’r cyfnod hwnnw’n dod i ben.

2

Rhaid i fanylion daliadau at ddibenion paragraff (1) gofnodi—

a

cyfanswm pwysau byw blynyddol y grawn wystrys brodorol a heuwyd yn y bysgodfa;

b

lleoliad y ffynhonnell y daeth y grawn wystrys brodorol ohoni;

c

cyfanswm pwysau byw blynyddol yr holl wystrys brodorol a gymerwyd o’r bysgodfa;

d

lleoliad y man y cymerwyd y wystrys brodorol ohono; a

e

pa wybodaeth bellach bynnag a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd ac yr hysbysir y Grantî ohoni.