NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi i Mumbles Oyster Company Limited (Rhif y Cwmni: 08181012) (“y Grantî”) yr hawl i bysgodfa unigol am wystrys brodorol (Ostrea edulis) dros arwynebedd o tua 35 hectar ym Mae Abertawe sydd yng nghyffiniau’r Mwmbwls, am gyfnod o 15 mlynedd yn dechrau ar 10 Medi 2013.

Diffinnir hyd a lled y bysgodfa drwy ddefnyddio’r cyfesurynnau a bennir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn ac a ddangosir, at ddibenion eglurhaol yn unig, ar fap sydd ar gael i edrych arno (os gwneir apwyntiad ymlaen llaw) yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Mae erthygl 3 yn rhoi’r hawl i bysgodfa unigol.

Mae erthygl 4 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Grantî yn marcio terfynau’r bysgodfa ym mha fodd bynnag y bydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo o bryd i’w gilydd, ac yn cynnal y marcwyr hynny yn eu lleoedd ac mewn cyflwr da.

Mae erthygl 5 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Grantî yn cyflwyno manylion daliadau yn flynyddol.

Mae erthygl 6 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Grantî yn darparu cyfrifon blynyddol ac yn cydymffurfio â phob cais am wybodaeth a wneir gan Weinidogion Cymru. Mae’n ei gwneud yn ofynnol hefyd fod y Grantî yn caniatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru arolygu ardal y bysgodfa a’r holl gyfrifon a dogfennau eraill sydd ym meddiant y Grantî ac sy’n ymwneud â’r Gorchymyn hwn a’r ardal honno.

Mae erthygl 7 yn darparu na chaiff dim sydd yn y Gorchymyn hwn leihau effaith hawliau’r Goron ac mae erthygl 8 yn darparu na chaiff dim sydd yn y Gorchymyn hwn leihau effaith unrhyw swyddogaethau statudol a arferir gan ymgymerydd statudol.

Mae erthygl 9 yn gwahardd aseinio, neu drosglwyddo rywfodd arall, yr hawl i bysgodfa unigol a grëir gan y Gorchymyn hwn heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru.

Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y Grantî yn ffermio’r bysgodfa, neu’n gweithredu’r cyfyngiadau a’r rheoliadau a gynhwysir yn y Gorchymyn yn briodol, mae adran 5(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud tystysgrif i’r perwyl hwnnw, a fydd yn terfynu’r bysgodfa yn llwyr, o ran yr ardal y gwneir y dystysgrif mewn cysylltiad â hi.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.