NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (“Mesur 2009”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 8 Awst 2013 adran 4 o Fesur 2009. Bydd hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch bwyd a diod a ddarperir gan ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn dwyn i rym ar 2 Medi 2013 adrannau 1 i 3 a 5 i 11 o Fesur 2009.