Search Legislation

Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2013 No. 1984 (Cy. 194)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013

Gwnaed

8 Awst 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Awst 2013

Yn dod i rym

2 Medi 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 4(1), (2), (3), (4) ac (8) ac adran 10 o Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009(1) a hwythau wedi canfod barn disgyblion ac ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill y maent yn barnu eu bod yn briodol yn unol ag adran 4(11) o’r Mesur hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 a deuant i rym ar 2 Medi 2013.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i’r ymadrodd “addysg gynradd” yr ystyr a roddir i “primary education” gan adran 2(1) o Ddeddf 1996;

mae i’r ymadrodd “addysg uwchradd” yr ystyr a roddir i “secondary education” gan adran 2(2) o Ddeddf 1996;

ystyr “anghenion deietegol sydd wedi eu rhagnodi’n feddygol” (“medically prescribed dietary requirements”) yw anghenion deietegol a ragnodir gan—

(a)

ymarferydd meddygol cofrestredig; neu

(b)

deitegwr sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 4 o’r Gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001(2);

mae “brechdanau” (“sandwiches”) yn cynnwys rholiau wedi eu llenwi a chynhyrchion tebyg sy’n barod i’w bwyta heb unrhyw waith paratoi pellach;

ystyr “brecwast ysgol” (“school breakfast”) yw bwyd a ddarperir i’w fwyta gan ddisgyblion neu bersonau eraill ar fangre ysgol cyn dechrau’r sesiwn ysgol foreol, neu yn achos ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig cyn neu ar ddechrau’r sesiwn ysgol foreol;

ystyr “byrbrydau sawrus” (“savoury snacks”) yw—

(a)

eitemau wedi eu rhagbecynnu (ac eithrio melysion, brechdanau, cacennau, bisgedi, cnau a hadau sy’n barod i’w bwyta heb unrhyw waith paratoi pellach; a

(b)

sydd wedi eu cyfansoddi o, neu sy’n cynnwys fel cynhwysyn sylfaenol—

(i)

tatws neu wreiddlysiau (megis creision);

(ii)

grawnfwydydd (megis pyffion corn neu fyrbrydau corn);

(iii)

creision tortilla;

(iv)

pretsels;

(v)

popgorn (p’un ai’n blaen, wedi ei felysu neu wedi ei halltu);

(vi)

cracers corgimwch;

(vii)

cacennau reis (p’un ai rhai plaen neu rai â chyflas);

(viii)

cymysgedd Bombay;

mae i’r ymadrodd “cig” yr ystyr a roddir i “meat” gan Gyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau sy’n ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd(3);

ystyr “cinio ysgol” (“school lunch”) yw bwyd a ddarperir i’w fwyta gan ddisgyblion neu bersonau eraill fel eu pryd bwyd canol dydd ar ddiwrnod ysgol, p’un a yw hynny’n golygu pryd gosod neu ddetholiad o eitemau i’w dewis ganddynt;

mae i’r ymadrodd “cynnyrch cig” yr ystyr a roddir i “meat product” yn y Rheoliadau Cynhyrchion Cig ac mae’n cynnwys unrhyw gynnyrch cig sydd wedi ei ffurfio, ei siapio a’i gaenu;

mae “darparu” (“provide”) yn cynnwys trefnu darpariaeth;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(4);

mae i’r ymadrodd “disgybl hŷn” yr ystyr a roddir i “senior pupil” gan adran 3(2) o Ddeddf 1996;

mae i’r ymadrodd “disgybl iau” yr ystyr a roddir i “junior pupil” gan adran 3(2) o Ddeddf 1996;

ystyr “diwrnod ysgol” (“school day”), mewn perthynas ag ysgol a gynhelir, yw unrhyw ddiwrnod y cynhelir o leiaf un sesiwn ysgol arno, a honno’n cael ei chynnal rhwng 8.30am a 6pm yn yr ysgol honno;

ystyr “dogn” (“portion”) yw maint o fwyd penodol a ddarperir i unigolyn fel rhan o bryd bwyd;

ystyr “llaeth” (“milk”) yw llaeth cyflawn, llaeth hanner-sgim neu laeth sgim;

ystyr “mangre ysgol” a “mangre’r ysgol” (“school premises”) yw mangre’r ysgol a gynhelir;

ystyr “melysion” (“confectionery”) yw—

(a)

gwm cnoi gan gynnwys gwm cnoi heb siwgr;

(b)

barrau grawnfwyd (rhai cnoadwy neu rai crensiog);

(c)

barrau â ffrwythau wedi eu prosesu neu eu hallwthio;

(d)

melysion eraill nad ydynt yn rhai siocled (p’un a ydynt yn cynnwys siwgr ai peidio) gan gynnwys mintys;

(e)

ysgeintiadau neu eisinau neu haenau uchaf addurnol sydd wedi eu gwneud o siwgr eisin;

(f)

siocled ar unrhyw ffurf (ac eithrio siocled poeth);

(g)

unrhyw gynnyrch sy’n cynnwys siocled neu sydd wedi ei gaenu’n gyfan gwbl neu’n rhannol â siocled;

(h)

unrhyw sylwedd blas siocled (ac eithrio powdr coco a ddefnyddir mewn cacennau, bisgedi a phwdinau neu mewn diod a restrir yn Nhabl D i Atodlen 5);

ystyr “pryd gyda’r hwyr” (“evening meal”) mewn perthynas ag ysgol fyrddio a gynhelir, yw bwyd neu ddiod a ddarperir am, neu ar ôl 6pm;

mae “pysgod olewog” (“oily fish”) yn cynnwys brwyniaid, penwaig, ciperi, mecryll, penwaig Mair, eogiaid, sardîns, brithyllod, tiwna (ond nid tiwna mewn tun) a silod mân ond mae’n eithrio cynhyrchion pysgod cyfnerthedig neu fwydydd eraill sydd wedi eu cyfnerthu ag omega 3;

ystyr “Rheoliadau Cynhyrchion Cig” (“Meat Products Regulations”) yw Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru ) 2004(5);

ystyr “Rheoliadau Undeb Ewropeaidd perthnasol” (“relevant European Union Regulations”) yw—

(a)

Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008(6) Senedd Ewrop a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd ar ychwanegion bwyd;

(b)

Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008(7) Senedd Ewrop a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd ar gyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol â phriodoleddau cyflasu i’w defnyddio mewn bwydydd ac ar fwydydd;

ystyr “sudd ffrwythau” (“fruit juice”) yw—

(a)

y cynhyrchion a ddisgrifir gan yr enw hwnnw; neu

(b)

y cynnyrch a ddisgrifir gan yr enw “sudd ffrwythau o ddwysfwyd” yn Atodlen 1 i Reoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003 (8);

ystyr “sudd llysiau” (“vegetable juice”) yw sudd a echdynnwyd o lysiau neu domatos a hynny heb ychwanegu unrhyw sylwedd arall ato, ac eithrio y caniateir i unrhyw ddŵr a echdynnwyd wrth ddwysáu gael ei adfer;

ystyr “wythnos” (“week”) yw’r pum niwrnod o ddydd Llun i ddydd Gwener;

mae i’r ymadrodd “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 11 o Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009;

ystyr “ysgol feithrin a gynhelir” (“maintained nursery school”) yw ysgol feithrin neu uned feithrin mewn ysgol gynradd a gynhelir gan awdurdod lleol;

ystyr “ysgol fyrddio” (“boarding school”) yw ysgol a gynhelir a chanddi ddisgyblion byrddio, p’un a oes ganddi ddisgyblion dydd hefyd ai peidio;

ystyr “ysgol gynradd” (“primary school”) yw ysgol sy’n darparu addysg gynradd (p’un a yw hefyd yn darparu mathau eraill o addysg ai peidio);

ystyr “ysgol uwchradd” (“secondary school”) yw ysgol sy’n darparu addysg uwchradd (p’un a yw hefyd yn darparu mathau eraill o addysg ai peidio);

(2Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n gymwys i fwyd neu ddiod a ddarperir—

(a)mewn unrhyw ddigwyddiad cymdeithasol ysgol neu ddigwyddiad hamdden ysgol i nodi unrhyw achlysur crefyddol neu ddiwylliannol;

(b)yn ystod digwyddiadau i godi arian;

(c)fel gwobrwyon am gyrhaeddiad, ymddygiad da neu ymdrech dda;

(d)i’w ddefnyddio i ddysgu sgiliau paratoi bwyd a choginio ar yr amod na châi unrhyw fwyd sy’n cael ei baratoi felly ei ddarparu i ddisgyblion fel rhan o frecwast ysgol neu ginio ysgol;

(e)gan rieni, disgyblion neu bersonau eraill i’w fwyta ganddynt hwy eu hunain ar fangre ysgol;

(f)fel rhan o unrhyw anghenion deietegol sydd wedi eu rhagnodi’n feddygol.

Dirymu

3.  Mae Rheoliadau Addysg (Safonau Maeth Cinio Ysgol) (Cymru) 2001(9) wedi eu dirymu.

Brecwast mewn ysgolion a gynhelir

4.—(1Rhaid i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gydymffurfio â’r gofynion yn Atodlen 1 pan fo’n darparu brecwast ysgol ar ddiwrnod ysgol—

(a)i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, p’un ai ar fangre ysgol neu mewn man nad yw’n fangre ysgol;

(b)i unrhyw berson arall ar fangre’r ysgol.

(2Pan fo awdurdod lleol neu gorff llywodraethu’n darparu brecwast ysgol yn unol â pharagraff (1), rhaid iddo roi’r opsiwn i’r disgybl neu berson arall ddewis un eitem fwyd o bob un o’r categorïau bwyd a restrir yn Nhabl A yn Atodlen 1.

Cinio mewn ysgolion meithrin a gynhelir

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gydymffurfio â’r gofynion yn Atodlen 2 pan fo’n darparu cinio ysgol ar ddiwrnod ysgol—

(a)i ddisgyblion cofrestredig ysgol feithrin a gynhelir ar fangre ysgol neu fan nad yw’n fangre ysgol;

(b)i unrhyw berson arall ar fangre ysgol feithrin a gynhelir.

(2Nid yw’r gofynion yn Atodlen 2 yn gymwys pan fo awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi cydymffurfio â’r gofynion yn Atodlen 3 a’r safonau maeth yn Atodlen 4 mewn perthynas â chiniawau ysgol a ddarperir i bersonau ym mharagraff (1).

Cinio mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir

6.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn darparu cinio ysgol ar ddiwrnod ysgol—

(a)i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir ar fangre ysgol neu mewn man nad yw’n fangre ysgol; a

(b)i unrhyw berson arall ar fangre’r ysgol.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu sicrhau bod cinio ysgol a ddarperir i berson a bennir ym mharagraff (1) yn cydymffurfio â’r gofynion yn Atodlen 3 a’r safonau maeth yn Atodlen 4.

(3Rhaid i’r awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu sicrhau bod cinio ysgol a ddarperir i ddisgyblion ar drip ysgol ar ddiwrnod ysgol yn cydymffurfio â’r gofynion y Atodlen 3 a’r safonau maeth yn Atodlen 4.

(4Pan fo awdurdod lleol neu gorff llywodraethu’n darparu addysg gynradd ac uwchradd yn yr ysgol, rhaid i’r cinio ysgol a ddarperir—

(a)i ddisgybl iau gydymffurfio â’r gofynion ar gyfer ysgolion cynradd yn Atodlen 3 a’r safonau maeth ar gyfer ysgolion cynradd yn Atodlen 4; a

(b)i ddisgybl hŷn gydymffurfio â’r gofynion ar gyfer ysgolion uwchradd yn Atodlen 3 a’r safonau maeth ar gyfer ysgolion uwchradd yn Atodlen 4.

(5Pan fo ysgol ar agor am lai na phum niwrnod mewn unrhyw wythnos, mae’r gofynion yn Atodlen 3 sy’n cyfeirio at nifer yr adegau y mae’n rhaid darparu neu beidio â darparu bwyd drwy gyfeirio at wythnos yn gymwys fel petai’r ysgol ar agor am y cyfan o’r wythnos honno.

Diodydd mewn ysgolion a gynhelir

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddiod a ddarperir—

(a)i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, p’un ai ar fangre ysgol neu mewn man nad yw’n fangre ysgol; a

(b)i unrhyw berson arall ar fangre’r ysgol.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu sicrhau bod diod a ddarperir i berson ym mharagraff (1) yn cydymffurfio â’r gofynion yn Atodlen 5.

(3Pan fo awdurdod lleol neu gorff llywodraethu’n darparu addysg gynradd ac uwchradd yn yr ysgol, rhaid i’r ddiod a ddarperir—

(a)i ddisgybl iau gydymffurfio â’r gofynion ar gyfer ysgolion cynradd yn Atodlen 5; a

(b)i ddisgybl hŷn gydymffurfio â’r gofynion ar gyfer ysgolion uwchradd yn Atodlen 5.

Darparu bwydydd neu ddiodydd eraill mewn ysgolion a gynhelir

8.—(1Rhaid i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gydymffurfio â’r gofynion yn Atodlen 6 os yw’n darparu bwyd, ar ddiwrnod ysgol, nad yw’n rhan o frecwast ysgol na chinio ysgol i’r personau a bennir ym mharagraff (3).

(2Rhaid i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gydymffurfio â’r gofynion yn Atodlen 5 os yw’n darparu diod, ar ddiwrnod ysgol, nad yw’n rhan o frecwast ysgol na chinio ysgol i’r personau a bennir ym mharagraff (3).

(3At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr y cyfeiriad at bersonau ym mharagraffau (1) a (2) yw—

(a)disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn ysgol a gynhelir ac sydd—

(i)ar fangre ysgol cyn 6pm;

(ii)mewn man nad yw’n fangre ysgol cyn 6pm;

(b)unrhyw berson arall sydd ar fangre’r ysgol cyn 6pm.

(4Nid yw’r gofynion a nodir yn Atodlen 6 yn gymwys mewn perthynas â melysion, byrbrydau, cacennau neu fisgedi a ddarperir i ddisgyblion mewn ysgol fyrddio fel rhan o bryd bwyd gyda’r hwyr.

Carwyn Jones

Prif Weinidog Cymru

8 Awst 2013

Rheoliad 4

ATODLEN 1BRECWAST MEWN YSGOLION A GYNHELIR

1.  Mae’r gofynion yn yr Atodlen hon yn gymwys pan fo brecwast ysgol yn cael ei ddarparu mewn ysgolion a gynhelir.

2.  Yr unig fwydydd y mae’n rhaid iddynt fod ar gael ar bob diwrnod ysgol yw’r rhai o’r categorïau yn Nhabl A.

3.  Rhaid i ddiodydd sydd wedi eu seilio ar laeth a ddarperir i ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir neu i bersonau ar fangreoedd ysgolion a gynhelir gydymffurfio â’r gofynion yn Atodlen 5.

Tabl A

Categorїau Bwyd
Diodydd wedi eu seilio ar laeth neu iogyrtiau
Grawnfwydydd – heb eu caenu na’u cyflasu naill ai ar eu pen eu hunain neu mewn cyfuniad â siwgr, neu siocled, neu bowdr coco.
Ffrwythau a llysiau
Bara a haenau ar ben y bara

Rheoliad 5

ATODLEN 2CINIO MEWN YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR

1.  Ar bob diwrnod ysgol rhaid i fwyd o bob un o’r categorïau bwyd yn Nhabl B fod yn rhan o’r cinio ysgol a ddarperir mewn ysgolion meithrin a gynhelir.

2.  Rhaid i laeth a ddarperir i ddisgyblion mewn ysgolion meithrin a gynhelir neu i bersonau ar fangreoedd ysgolion meithrin a gynhelir gydymffurfio â’r gofynion yn Atodlen 5.

Tabl B

Categori BwydBwydydd sydd wedi eu cynnwys yn y categori
Ffrwythau a llysiauFfrwythau a llysiau ar bob ffurf p’un ai’n rhai ffres, wedi eu rhewi, wedi eu sychu neu ar ffurf sudd ond gan eithrio ffrwythau tun mewn surop.
Cig, pysgod a ffynonellau protein eraill nad ydynt yn gynhyrchion llaeth.Cig a physgod ar bob ffurf p’un ai’n rhai ffres, wedi eu rhewi, mewn tuniau neu wedi eu sychu gan gynnwys cynhyrchion cig neu bysgod, wyau, cnau, corbys a ffa, ac eithrio ffa gwyrdd.
Bwydydd startslydBara, siapatis, pasta, nwdls, reis, tatws, tatws melys, iamau, miled, a blawd india corn.
Bwydydd llaeth a llaethLlaeth, iogwrt (gan gynnwys iogwrt wedi ei rewi ac iogwrt i’w yfed), fromage frais, cwstard a chaws, ond gan eithrio menyn a hufen.

Rheoliad 6

ATODLEN 3CINIO MEWN YSGOLION CYNRADD AC UWCHRADD A GYNHELIR

1.  Mae’r gofynion yn yr Atodlen hon yn gymwys i ginio ysgol a ddarperir mewn ysgolion cynradd ac uwchradd oni nodir yn wahanol.

Llysiau

2.—(1Rhaid darparu o leiaf un dogn o lysiau neu salad bob dydd mewn ysgolion cynradd.

(2Rhaid darparu o leiaf dau ddogn o lysiau neu salad bob dydd mewn ysgolion uwchradd.

(3At ddibenion is-baragraffau (1) a (2), nid yw “llysiau” yn cynnwys tatws.

Ffrwythau

3.—(1Rhaid darparu o leiaf un dogn o ffrwythau, salad ffrwythau neu sudd ffrwythau bob diwrnod.

(2Rhaid darparu melysfwyd sydd wedi ei seilio ar ffrwythau o leiaf ddwywaith bob wythnos.

(3Rhaid i ddogn o felysfwyd sydd wedi ei seilio ar ffrwythau gynnwys, o ran y ffrwythau sydd ynddo—

(a)mewn ysgolion cynradd, o leiaf 40 gram o’u mesur yn ôl pwysau’r cynhwysion amrwd;

(b)mewn ysgolion uwchradd, o leiaf 60 gram o’u mesur yn ôl pwysau’r cynhwysion amrwd.

Pysgod

4.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid darparu dogn o bysgod—

(a)o leiaf unwaith yr wythnos mewn ysgolion cynradd; a

(b)o leiaf ddwywaith yr wythnos mewn ysgolion uwchradd.

(2Rhaid darparu dogn o bysgod olewog o leiaf ddwywaith yn ystod unrhyw gyfnod o bedair wythnos.

Tatws a chynhyrchion tatws

5.—(1Ni chaniateir i datws a chynhyrchion tatws sydd wedi eu coginio mewn braster neu olew gael eu darparu fwy na dwywaith bob wythnos.

(2Pan ddarperir tatws neu gynhyrchion tatws o dan baragraff (1) mewn ysgolion uwchradd, rhaid darparu hefyd fwyd startslyd amgenach sydd heb ei goginio mewn braster neu olew.

Bwyd sydd wedi ei ddwys-ffrio neu ei ffrio’n sydyn

6.—(1Ni chaniateir i ddogn bwyd, gan gynnwys cynhyrchion bwyd sydd wedi eu paratoi, eu caenu, eu rhoi mewn cytew a’r rhai sydd wedi eu gorchuddio â briwsion bara, sydd wedi eu dwys-ffrio neu eu ffrio’n sydyn ar fangre ysgol neu yn ystod y broses weithgynhyrchu, gael ei ddarparu fwy na dwywaith bob wythnos.

(2Nid yw’r bwyd yn is-baragraff (1) yn cynnwys tatws na chynhyrchion tatws.

Cig

7.  Rhaid darparu cig—

(a)ar o leiaf ddau ddiwrnod bob wythnos mewn ysgolion cynradd;

(b)ar o leiaf dri diwrnod bob wythnos mewn ysgolion uwchradd.

Cynhyrchion Cig

8.—(1Ni chaniateir i fwy na dau gynnyrch cig gael eu darparu bob wythnos.

(2Ni chaniateir i gynhyrchion cig a ddarperir o dan baragraff (1) gael eu gweini fwy na dwywaith bob wythnos.

(3At ddibenion paragraffau (1) a (2), nid yw cynnyrch cig yn cynnwys “luncheon meat”.

(4Rhaid i gynhyrchion cig gan gynnwys “luncheon meat” fodloni’r lefelau isaf ar gyfer y cynnwys o ran cig a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau Cynhyrchion Cig.

(5Ni chaniateir i unrhyw gynnyrch cig gael ei ddarparu os yw’n cynnwys unrhyw ran o’r carcas a restrir yn rheoliad 6(2) o’r Rheoliadau Cynhyrchion Cig, yn ddarostyngedig i’r eithriad yn rheoliad 6(3) o’r Rheoliadau hynny.

(6Ni chaniateir i “economy burgers” fel y’u diffinnir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau Cynhyrchion Cig gael eu darparu.

(7Dim ond os bydd unrhyw gynnyrch cig sydd wedi ei siapio ac sydd wedi ei gyfansoddi o gymysgedd o gig a chynhwysion eraill ac nad yw wedi ei gynnwys yn y disgrifiadau neilltuedig a bennir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau Cynhyrchion Cig yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch y cynnwys o ran cig ar gyfer “Burger” yn yr Atodlen honno y caniateir ei ddarparu.

Melysion a byrbrydau sawrus

9.  Ni chaniateir i unrhyw felysion na byrbrydau sawrus gael eu darparu.

Cacennau a bisgedi

10.  Ni chaniateir i gacennau a bisgedi gynnwys unrhyw felysion.

Halen a chynfennau

11.—(1Ni chaniateir i halen fod ar gael i ddisgyblion ei ychwanegu at y bwyd ar ôl i’r broses goginio gael ei chwblhau.

(2Ni chaniateir i ddogn unrhyw un neu rai o’r cynfennau a roddir ar gael i ddisgyblion fod yn fwy na 10ml.

Rheoliad 6

ATODLEN 4Y SAFONAU MAETH AR GYFER CINIO YSGOL MEWN YSGOLION CYNRADD AC UWCHRADD A GYNHELIR

1.  Yn yr Atodlen hon—

mae i “cinio ysgol cyfartalog” (“average school lunch”) yr ystyr a roddir iddo gan baragraff 2 (1);

ystyr “grŵp o ysgolion” (“group of schools”) yw dwy neu fwy o ysgolion sy’n darparu addysg ar gyfer disgyblion o’r un ystod oedran ac sydd, pan fo’r ysgolion yn darparu addysg uwchradd, i gyd yn ysgolion cydaddysgol, i gyd yn ysgolion un rhyw i fechgyn neu i gyd yn ysgolion un rhyw i ferched;

ystyr “maethyn” (“nutrient”) yw unrhyw sylwedd a restrir yn Nhabl C.

ystyr “siwgrau anghynhenid nad ydynt yn deillio o laeth” (“non-milk extrinsic sugars”) yw unrhyw siwgrau nad ydynt wedi eu cynnwys o fewn muriau celloedd, ac eithrio lactos mewn llaeth a chynhyrchion llaeth; ac

2.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid cyfrifo’r cinio ysgol cyfartalog ar gyfer ysgol neu grŵp o ysgolion yn unol â’r fformiwla canlynol:—

Ac—

  • “A” yw cyfanswm y cynnwys o ran egni a maethynnau a ddarperir ym mhob cinio ysgol a weinwyd yn ystod wythnos ysgol;

  • “B” yw nifer amcangyfrifedig y ciniawau ysgol a weinwyd i ddisgyblion yn ystod yr wythnos ysgol honno; ac

  • “C” yw nifer y diwrnodau yn yr wythnos ysgol.

(2Rhaid i grŵp o ysgolion ddefnyddio’r fformiwla yn is-baragraff (1) os yr un peth yw’r cinio ysgol a ddarperir ym mhob ysgol yn y grŵp.

3.  Rhaid i ginio ysgol cyfartalog ddarparu—

(a)swm o egni y mae’n rhaid iddo fod naill ai’r un peth â’r ffigur a welir yn Nhabl C neu o fewn 5% i’r ffigur hwnnw;

(b)dim mwy na’r uchafsymiau o fraster, braster dirlawn, siwgrau anghynhenid nad ydynt yn deillio o laeth a sodiwm a welir yn Nhabl C; ac

(c)o leiaf yr isafswm o’r holl faethynnau eraill a welir yn Nhabl C.

TABL C

MaethynIsafswm neu UchafswmCinio ysgol a ddarperir mewn ysgolion cynraddCinio ysgol a ddarperir mewn ysgolion uwchradd
CydaddysgolUn rhyw i ferchedUn rhyw i fechgyn
Egni (cilocalorїau)+/- 5%530646577714
Cyfanswm y braster (gramau)Uchafswm20.625.122.527.8
Braster dirlawn (gramau)Uchafswm6.57.97.18.7
Cyfanswm carbohydrad (gramau)Isafswm70.686.17795.2
Siwgrau anghynhenid nad ydynt yn deillio o laeth (gramau)Uchafswm15.518.916.920.9
Ffibr (gramau)Isafswm4.25.24.65.7
Protein (gramau)Isafswm7.513.312.713.8
Haearn (miligramau)Isafswm34.44.43.4
Sinc (miligramau)Isafswm2.52.82.72.8
Calsiwm (miligramau)Isafswm193300240300
Fitamin A (microgramau)Isafswm175245210245
Fitamin C (miligramau)Isafswm10.5141414
Ffolad (microgramau)Isafswm53707070
Sodiwm (miligramau)Uchafswm499714714714

Rheoliad 7

ATODLEN 5DIODYDD A DDARPERIR MEWN YSGOLION A GYNHELIR

Tabl D

Mae’r gofynion yn Nhabl D yn gymwys i ddiodydd a ddarperir mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir.

(1) Y Cynnyrch(2) Ysgolion meithrin(3) Ysgolion cynradd(4) Ysgolion uwchradd(5) Y gofyniad gorfodol ar gyfer y cynnyrch(6) Y gofyniad disgresiynol ar gyfer y cynnyrch
Diodydd unigol

Dŵr plaen – (llonydd neu befriog)

Caniateir y ddiod os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5.Caniateir y ddiod os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5.Caniateir y ddiod os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5.Dim sylweddau wedi eu hychwanegu.Dim.

Llaeth plaen

Caniateir y ddiod os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5.Caniateir y ddiod os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5.Caniateir y ddiod os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5.

Dim sylweddau wedi eu hychwanegu.

Rhaid i laeth a ddarperir mewn ysgolion meithrin fod yn llaeth cyflawn neu’n llaeth hanner-sgim.

Rhaid i laeth a ddarperir mewn ysgolion cynradd ac uwchradd fod yn llaeth hanner-sgim neu’n llaeth sgim.

Dim.

Sudd ffrwythau neu sudd llysiau

(llonydd neu befriog)

Dim ond os yw’n rhan o frecwast neu ginio ysgol ac os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5 y caniateir y ddiod.Dim ond os yw’n rhan o frecwast neu ginio ysgol ac os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5 y caniateir y ddiod.Caniateir y ddiod os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5.Dim sylweddau wedi eu hychwanegu ac eithrio sylwedd a restrir yng ngholofn 6.Caniateir i siwgr gael ei ychwanegu at sudd ffrwythau, ac eithrio unrhyw suddoedd a baratoir o rawnwin neu ellyg, ond dim ond er mwyn rheoleiddio blas asidig mewn maint (a fynegir fel mater sych) nad yw’n fwy na 15 gram y litr o sudd(10).

Diodydd soia plaen, reis plaen neu geirch plaen

Caniateir y ddiod os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5.

Caniateir y ddiod os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5.

Caniateir y ddiod os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5.Dim sylweddau wedi eu hychwanegu ac eithrio sylwedd yng ngholofn 6.Cânt gynnwys calsiwm sydd wedi ei ychwanegu.
Diodydd cyfunol
Sudd ffrwythau neu sudd llysiau wedi ei gyfuno â dŵr plaen (llonydd neu befriog)Dim ond os yw’n rhan o frecwast neu ginio ysgol ac os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5 y caniateir y ddiod.Dim ond os yw’n rhan o frecwast neu ginio ysgol ac os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5 y caniateir y ddiod.Caniateir y ddiod os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5.

Rhaid i’r ddiod gynnwys isafswm o 50% o sudd ffrwythau neu sudd llysiau.

Dim sylweddau wedi eu hychwanegu ac eithrio sylwedd yng ngholofn 6.

Caiff gynnwys lliwiau, cyflasynnau ac ychwanegion eraill megis cadwolion, gwrthocsidyddion a sefydlogyddion yn unol â’r Rheoliadau Undeb Ewropeaidd perthnasol a ddiffiniwyd yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn.
Sudd ffrwythau neu sudd llysiau wedi ei gyfuno â llaeth plaen neu iogwrt plaen.Ni chaniateir y ddiod.Ni chaniateir y ddiod.

Caniateir y ddiod os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5.

Rhaid iddo fod yn llaeth hanner-sgim neu’n llaeth sgim.

Rhaid i laeth neu iogwrt fod o leiaf 50% o laeth yn ôl cyfaint.

Dim sylweddau wedi eu hychwanegu ac eithrio sylwedd yng ngholofn 6.

Caiff gynnwys lliwiau, cyflasynnau ac ychwanegion eraill megis cadwolion, gwrthocsidyddion a sefydlogyddion yn unol â’r Rheoliadau Undeb Ewropeaidd perthnasol a ddiffiniwyd yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn.

Caiff gynnwys llai na 5% o siwgrau wedi eu hychwanegu neu fêl wedi ei ychwanegu.

Caiff gynnwys fitaminau a mwynau.

Sudd ffrwythau neu sudd llysiau wedi ei gyfuno â diodydd soia, reis plaen neu geirch plaen.Ni chaniateir y ddiod.Ni chaniateir y ddiod.Caniateir y ddiod os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5.

Rhaid i’r ddiod gynnwys isafswm o 50% o ddiod soia, reis neu geirch yn ôl cyfaint.

Dim sylweddau wedi eu hychwanegu ac eithrio sylwedd yng ngholofn 6.

Caiff gynnwys lliwiau, cyflasynnau ac ychwanegion eraill megis cadwolion, gwrthocsidyddion a sefydlogyddion yn unol â’r Rheoliadau Undeb Ewropeaidd perthnasol a ddiffiniwyd yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn.

Caiff gynnwys llai na 5% o siwgrau wedi eu hychwanegu neu fêl wedi ei ychwanegu.

Caiff gynnwys fitaminau a mwynau.

Diodydd llaeth, iogwrt neu soia, reis neu geirch â chyflas.

Ni chaniateir y ddiod.Ni chaniateir y ddiod.Caniateir y ddiod os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5.

Rhaid i’r llaeth fod yn hanner-sgim neu’n llaeth sgim.

Rhaid i’r ddiod llaeth neu iogwrt neu soia, reis neu geirch fod o leiaf 90% yn ôl cyfaint.

Dim sylweddau wedi eu hychwanegu ac eithrio sylwedd yng ngholofn 6.

Caiff gynnwys lliwiau, cyflasynnau ac ychwanegion eraill megis cadwolion, gwrthocsidyddion a sefydlogyddion yn unol â’r Rheoliadau Undeb Ewropeaidd perthnasol a ddiffiniwyd yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn.

Caiff gynnwys llai na 5% o siwgrau wedi eu hychwanegu neu fêl wedi ei ychwanegu.

Caiff gynnwys fitaminau a mwynau.

Diodydd wedi eu blendio
Diod wedi ei gwneud yn unigol neu mewn cyfuniad â blend neu biwrî o ffrwythau, llysiau, sudd ffrwythau neu sudd llysiau.Dim ond os yw’n yn rhan o ginio ysgol ac os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5 y caniateir y ddiod.Dim ond os yw’n yn rhan o ginio ysgol ac os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5 y caniateir y ddiod.Caniateir y ddiod os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5.Dim sylweddau wedi eu hychwanegu ac eithrio sylwedd yng ngholofn 6.Caiff diod gyfunol gynnwys lliwiau, cyflasynnau ac ychwanegion eraill megis cadwolion, gwrthocsidyddion a sefydlogyddion yn unol â’r Rheoliadau Undeb Ewropeaidd perthnasol a ddiffiniwyd yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn.
Diodydd poeth
Te neu goffiNi chaniateir y ddiod.Ni chaniateir y ddiod.Caniateir y ddiod os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5.Dim sylweddau wedi eu hychwanegu ac eithrio sylwedd yng ngholofn 6.Caiff gynnwys llaeth hanner-sgim neu laeth sgim.
Siocled poethNi chaniateir y ddiod.Ni chaniateir y ddiod.Caniateir y ddiod os yw’n bodloni’r gofyniad yng ngholofn 5.

Rhaid iddo gael ei wneud â dŵr plaen, neu laeth plaen (hanner-sgim neu sgim), neu ddiod o soia plaen, reis plaen neu geirch plaen.

Ni chaniateir i ddiod fod yn fwy na 250ml o ran cyfaint.

Dim sylweddau wedi eu hychwanegu ac eithrio sylwedd yng ngholofn 6.

Caiff gynnwys fitaminau a mwynau.

Caiff gynnwys llai na 5% o siwgrau wedi eu hychwanegu neu fêl wedi ei ychwanegu.

Rheoliad 8

ATODLEN 6BWYDYDD ERAILL A DDARPERIR MEWN YSGOLION A GYNHELIR

Tabl E

Mae’r gofynion yn Nhabl E yn gymwys i fwyd a ddarperir ar wahân i frecwast ysgol neu ginio ysgol.

CynnyrchYsgolion meithrinYsgolion cynraddYsgolion uwchradd

Ffrwythau a Llysiau

Rhaid i’r cynnyrch fod ar gael mewn unrhyw fan ar fangre ysgol lle y darperir bwyd.Rhaid i’r cynnyrch fod ar gael mewn unrhyw fan ar fangre ysgol lle y darperir bwyd.Rhaid i’r cynnyrch fod ar gael mewn unrhyw fan ar fangre ysgol lle y darperir bwyd.
HalenNi chaniateir y cynnyrch.Ni chaniateir y cynnyrch.Ni chaniateir y cynnyrch.
CynfennauNi chaniateir y cynnyrch.Ni chaniateir i ddogn unrhyw un neu rai o’r cynfennau a roddir ar gael fod yn fwy na 10ml.Ni chaniateir i ddogn unrhyw un neu rai o’r cynfennau a roddir ar gael fod yn fwy na 10ml.
MelysionNi chaniateir y cynnyrch.Ni chaniateir y cynnyrch.Ni chaniateir y cynnyrch.
Byrbrydau sawrusNi chaniateir y cynnyrch.Ni chaniateir y cynnyrch.Ni chaniateir y cynnyrch.
Cacennau a bisgediNi chaniateir y cynnyrch.Ni chaniateir y cynnyrch.

Dim ond os yw’r cynnyrch yn bodloni’r gofynion canlynol y caniateir ei ddarparu:

(a)

ei fod wedi ei ganiatáu o dan baragraff 10 o Atodlen 3; a

(b)

ei fod yn cydymffurfio ag Atodlen 4.

Tatws a chynhyrchion tatwsNi chaniateir y cynnyrch.Dim ond os yw’r cynnyrch yn cael ei drin fel cynnyrch a ganiateir o dan baragraff 5(1) o Atodlen 3 y caniateir ei ddarparu.Dim ond os yw’r cynnyrch yn cael ei drin fel cynnyrch a ganiateir o dan baragraff 5(1) o Atodlen 3 y caniateir ei ddarparu.
Bwyd sydd wedi ei ddwys-ffrio neu ei ffrio’n sydyn (gan eithrio tatws)Ni chaniateir y cynnyrch.Dim ond os yw’r cynnyrch yn cael ei drin fel cynnyrch a ganiateir o dan baragraff 6 o Atodlen 3 y caniateir ei ddarparu.Dim ond os yw’r cynnyrch yn cael ei drin fel cynnyrch a ganiateir o dan baragraff 6 o Atodlen 3 y caniateir ei ddarparu.
Cynhyrchion CigNi chaniateir y cynnyrch.

Dim ond os yw’r cynnyrch yn bodloni’r gofynion canlynol y caniateir ei ddarparu:

(a)

ei fod yn cael ei drin fel cynnyrch a ganiateir o dan baragraff 8(1) a (2) o Atodlen 3; a

(b)

ei fod yn cydymffurfio â’r gofynion o dan baragraff 8(3) i (7) o Atodlen 3.

Dim ond os yw’r cynnyrch yn bodloni’r gofynion canlynol y caniateir ei ddarparu:

(a)

ei fod yn cael ei drin fel cynnyrch a ganiateir o dan baragraff 8(1) a (2) o Atodlen 3; a

(b)

ei fod yn cydymffurfio â’r gofynion o dan baragraff 8(3) i (7) o Atodlen 3.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir sy’n darparu bwyd a diod i ddisgyblion ysgolion a gynhelir, p’un a ydynt ar fangre ysgol ai peidio, ac i bersonau eraill ar fangre ysgol.

Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r mathau o fwyd a diod y gellir eu cynnig, a’r rhai na chaniateir eu cynnig, yn ystod y diwrnod ysgol ac yn diffinio cynnwys maeth ciniawau ysgol.

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am y Rheoliadau hyn ar ffurf drafft yn unol â Chyfarwyddeb 98/34/EC(11), fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 98/48/EC(12).

Mae’r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Addysg (Safonau Maeth Cinio Ysgol) (Cymru ) 2001(13).

Rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn o 2 Medi 2013.

Mae Rheoliad 2(2) yn nodi esemptiadau penodol i’r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 3 yn dirymu’r Rheoliadau blaenorol.

Mae Rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn nodi’r gofynion y mae’n rhaid eu bodloni pan ddarperir brecwast ysgol.

Mae Rheoliad 5 yn cymhwyso’r gofynion yn Atodlen 2 pan fo cinio ysgol yn cael ei ddarparu i ddisgyblion mewn ysgolion meithrin neu bersonau eraill ar fangre ysgol feithrin mewn achosion pan na fo cinio ysgol yn cydymffurfio â’r gofynion yn Atodlen 3 a’r safonau maeth yn Atodlen 4.

Mae Rheoliad 6 ac Atodlenni 3 a 4 yn nodi’r gofynion a’r safonau maeth y mae’n rhaid eu bodloni pan fo cinio ysgol yn cael ei ddarparu.

Gan fod rhai gofynion yn yr Atodlenni yn cyfeirio at ba mor aml y mae’n rhaid darparu neu beidio â darparu bwydydd penodol drwy gyfeirio at wythnos, mae rheoliad 6(5) yn darparu, pan fo ysgol ar agor am ran o wythnos yn unig, y dylai nifer yr adegau y mae’n rhaid darparu neu beidio â darparu bwyd barhau fel petai’r ysgol ar agor am yr wythnos gyfan.

Mae Rheoliad 7 ac Atodlen 5 yn rhagnodi gofynion y mae’n rhaid eu bodloni mewn perthynas â diodydd.

O dan Reoliad 8 rhaid i fwyd neu ddiod a ddarperir ar adegau ar wahân i frecwast ysgol neu ginio ysgol (megis amser egwyl) gydymffurfio â’r gofynion yn Atodlen 5 neu 6.

Mae Atodlen 3 yn nodi’r gofynion sy’n ymwneud â’r bwyd y mae’n rhaid ei ddarparu neu beidio â’i ddarparu fel rhan o ginio ysgol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Mae Atodlen 4 yn ei gwneud hi’n ofynnol bod cyfrif yn cael ei wneud ar gyfer ysgol neu grŵp o ysgolion er mwyn sicrhau bod cinio ysgol cyfartalog yn cynnwys y swm cywir o ran egni a maethynnau.

(2)

O.S. 2002/254 (fel y’i diwygiwyd).

(3)

OJ L 109, 6.5.2000, t.29, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2001/101/EC, OJ L 310, 28.11.2001, t.19).

(5)

O.S. 2004/1396 (Cy.141) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2008/713 (Cy.74).

(6)

OJ L 354, 31.12.2008, t.16. Rhaid i fitaminau neu fwynau sy’n cael eu hychwanegu at fwyd at ddibenion ychwanegyn fodloni’r rheolaethau ar y defnydd o ychwanegion a nodir yn y Gyfarwyddeb.

(7)

OJ L 354, 31.12.2008, t.34.

(10)

Fel y’i caniateir gan baragraff 3(a) o Atodlen 3 i O.S. 2003/3041 (Cy.286) (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/700 Cy.107)).

(11)

OJ L 204, 21.7.1998, t.37.

(12)

OJ L 217, 5.8.1998, t.18.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources