xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Arbedion mewn perthynas â Phennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 1998

4.  Er bod Penodau 2 a 6 o Ran 3 o Ddeddf 2013 a’r diddymiadau canlyniadol yn Rhan 2 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno yn dod i rym—

(a)bydd darpariaethau adrannau 28, 29, 31 a 35 o Ddeddf 1998 ac Atodlenni 6 ac 8 iddi yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gynigion a gyhoeddir o dan yr adrannau hynny cyn 1 Hydref 2013;

(b)bydd darpariaethau adran 30 o Ddeddf 1998 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan adran 30 o Ddeddf 1998 cyn 1 Hydref 2013;

(c)bydd darpariaethau adran 32 o Ddeddf 1998 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfarwyddwyd a roddir o dan yr adran honno cyn 1 Hydref 2013; a

(d)bydd darpariaethau adran 33 o Ddeddf 1998 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â chynigion a gyhoeddir o dan adrannau 28, 29, 31 neu 35 o Ddeddf 1998 cyn 1 Hydref 2013.