Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2013

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Hydref 2013

3.  Yn ddarostyngedig i erthyglau 4 a 5 y diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2013 i rym yw 1 Hydref 2013—

(a)Pennod 2 o Ran 3 (cynigion trefniadaeth ysgolion);

(b)Pennod 3 o Ran 3 (rhesymoli lleoedd ysgol);

(c)Pennod 4 o Ran 3 (darpariaeth ranbarthol ar gyfer anghenion addysgol arbennig);

(d)Pennod 5 o Ran 3 (cynigion i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth);

(e)Pennod 6 o Ran 3 (darpariaethau amrywiol ac atodol);

(f)Atodlen 2 (newid rheoleiddiedig);

(g)Atodlen 3 (gweithredu cynigion statudol);

(h)paragraffau 1 i 7 a pharagraffau 9 i 39 o Atodlen 4 (gweithredu cynigion i newid categori ysgol);

(i)adran 99 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan Ran 2 o Atodlen 5; a

(j)Rhan 2 o Atodlen 5.