Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Hydref 20133
Yn ddarostyngedig i erthyglau 4 a 5 y diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2013 i rym yw 1 Hydref 2013—
a
Pennod 2 o Ran 3 (cynigion trefniadaeth ysgolion);
b
Pennod 3 o Ran 3 (rhesymoli lleoedd ysgol);
c
Pennod 4 o Ran 3 (darpariaeth ranbarthol ar gyfer anghenion addysgol arbennig);
d
Pennod 5 o Ran 3 (cynigion i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth);
e
Pennod 6 o Ran 3 (darpariaethau amrywiol ac atodol);
f
Atodlen 2 (newid rheoleiddiedig);
g
Atodlen 3 (gweithredu cynigion statudol);
h
paragraffau 1 i 7 a pharagraffau 9 i 39 o Atodlen 4 (gweithredu cynigion i newid categori ysgol);
i
adran 99 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan Ran 2 o Atodlen 5; a
j
Rhan 2 o Atodlen 5.