NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o ran gweithredu’r cwricwlwm lleol, a gyflwynwyd gan Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009. Maent yn nodi sut y bydd amrywiol ddarpariaethau mewn deddfwriaeth sy’n ymwneud ag addysg yn cael eu cymhwyso o ran disgyblion a myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau astudio at ddiben y cwricwlwm lleol sy’n cael ei ddarparu mewn ysgol neu sefydliad ac eithrio eu hysgol neu eu sefydliad hwy. Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn eglur pryd y maent i’w hystyried yn ddisgyblion neu’n fyfyrwyr yr ysgol arall honno neu’r sefydliad arall hwnnw.