2013 Rhif 1747 (Cy. 173)

Traffig Ffyrdd, Cymru

Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir y Fflint) 2013

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 20041 ac sydd bellach wedi ei freinio ynddynt hwy2.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o’i ardal.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Gogledd Cymru yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn.