2013 Rhif 1729 (Cy. 170)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Fetropolitan Abertawe (Diddymu) 2013

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 128 o Ddeddf Diwygio Addysg 19881 ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy2.

Yn unol ag adran 128(2) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (“the University of Wales Trinity Saint David”)3, sef corff corfforaethol a sefydlwyd at ddibenion sy’n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol o fewn ystyr adran 128(1)(b)(ii) o’r Ddeddf honno, wedi cydsynio i eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Fetropolitan Abertawe (“Swansea Metropolitan University Higher Education Corporation”)4 gael eu trosglwyddo iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Fetropolitan Abertawe ac â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn unol ag adran 128(4) o’r Ddeddf honno.