2013 Rhif 1727 (Cy. 169)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Powys (Diddymu) 2013

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 27C o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19921.

Yn unol ag adran 27C(2) o’r Ddeddf honno, mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Castell-nedd Port Talbot (“Neath Port Talbot College Further Education Corporation”)2 wedi cydsynio i’r trosglwyddiad o eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Powys (“Coleg Powys Further Education Corporation”)3.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Powys (“Coleg Powys Further Education Corporation”) yn unol ag adran 27C(6) o’r Ddeddf.