xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r gorfforaeth addysg bellach a sefydlwyd i redeg Coleg Ystrad Mynach a hynny’n effeithiol o 1 Awst 2013. Mae’n darparu ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ystrad Mynach i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Morgannwg. Mae’r Gorchymyn hefyd yn diogelu hawliau cyflogaeth personau sy’n cael eu cyflogi gan Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Ystrad Mynach drwy gymhwyso, gydag addasiadau, adran 26(2) i (4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13) (“y Ddeddf”).

Effaith cymhwyso adran 26(2) i (4) o’r Ddeddf yw cadw contractau cyflogaeth cyflogeion Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ystrad Mynach fel petai’r contractau cyflogaeth wedi eu gwneud yn wreiddiol rhwng y cyflogeion a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Morgannwg. Daw cyflogeion Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ystrad Mynach yn gyflogeion Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Morgannwg o 1 Awst 2013 ymlaen.

Ni luniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, gan nad oes ganddo effaith ar gostau busnes.