2013 Rhif 1673 (Cy. 162)
Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Chweched Dosbarth Iâl a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy (Diddymu) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 27C o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19921.
Yn unol ag adran 27C(2) o’r Ddeddf honno, mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria (“Coleg Cambria Further Education Corporation”)2 wedi cydsynio i drosglwyddiad eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Chweched Dosbarth Iâl (“Yale Sixth Form College Further Education Corporation”)3 a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy (“Deeside College Further Education Corporation”)4.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Chweched Dosbarth Iâl (“Yale Sixth Form College Further Education Corporation”) a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy (“Deeside College Further Education Corporation”), yn unol ag adran 27C(6) o’r Ddeddf honno.