Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Sir Gâr (Diddymu) a Choleg Sir Gar (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r gorfforaeth addysg bellach a sefydlwyd i redeg Coleg Sir Gâr (“Coleg Sir Gâr”) a hynny’n effeithiol o 1 Awst 2013. Mae hefyd yn dynodi Coleg Sir Gar (“Coleg Sir Gar”), sef coleg newydd fydd yn cael ei redeg gan gwmni cofrestredig cyfyngedig drwy warant at ddibenion adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“y Ddeddf”).

Mae’n darparu ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau’r gorfforaeth i Goleg Sir Gar (“Coleg Sir Gar”) ac mae’n diogelu hawliau cyflogaeth cyflogeion y gorfforaeth a ddiddymwyd drwy gymhwyso, gydag addasiadau, adran 26(2) i (4) o’r Ddeddf.

Effaith cymhwyso adran 26(2) i (4) o’r Ddeddf yw cadw contractau cyflogaeth cyflogeion y gorfforaeth a ddiddymwyd fel petai’r contractau cyflogaeth wedi eu gwneud yn wreiddiol rhwng y cyflogeion a Choleg Sir Gar (“Coleg Sir Gar”). Daw cyflogeion y gorfforaeth a ddiddymwyd yn gyflogeion Coleg Sir Gar (“Coleg Sir Gar”) o 1 Awst 2013.

Ystyr dynodi Coleg Sir Gar yw y dylid trin y sefydliad fel sefydliad o fewn y sector addysg bellach at ddibenion y Deddfau Addysg (o fewn yr ystyr a roddir gan adrannau 91(1) a 91(3) o’r Ddeddf ac adran 578 o Ddeddf Addysg 1996).

Ni luniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio ar gostau busnes.