2013 Rhif 1663 (Cy. 159)
Addysg, Cymru

Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Sir Gâr (Diddymu) a Choleg Sir Gar (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2013

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 27C o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19921 a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 28 o’r Ddeddf honno ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.
Yn unol ag adran 27C(2) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, mae Coleg Sir Gar (“Coleg Sir Gar”)3 wedi cydsynio i’r trosglwyddiad o eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Sir Gâr (“Coleg Sir Gâr Further Education Corporation”)4.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Sir Gâr (“Coleg Sir Gâr Further Education Corporation”), yn unol ag adran 27C(6) o’r Ddeddf honno.