Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Sir Gâr (Diddymu) a Choleg Sir Gar (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2013

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 1663 (Cy. 159)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Sir Gâr (Diddymu) a Choleg Sir Gar (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2013

Gwnaed

3 Gorffennaf 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Gorffennaf 2013

Yn dod i rym

1 Awst 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 27C o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1) a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 28 o’r Ddeddf honno ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Yn unol ag adran 27C(2) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, mae Coleg Sir Gar (“Coleg Sir Gar”)(3) wedi cydsynio i’r trosglwyddiad o eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Sir Gâr (“Coleg Sir Gâr Further Education Corporation”)(4).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Sir Gâr (“Coleg Sir Gâr Further Education Corporation”), yn unol ag adran 27C(6) o’r Ddeddf honno.

(1)

1992 p.13; rhoddwyd adran 27C yn lle adran 27 fel y’i deddfwyd yn wreiddiol, gan Ddeddf Addysg 2011 (p.21), adran 49, Atodlen 12, paragraffau 1 a 7.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 iddi.

(3)

Ymgorfforwyd ar 22 Mai 2013 yn gwmni cyfyngedig drwy warant a chofrestrwyd â rhif cwmni 08539630.

(4)

Sefydlwyd fel “Carmarthen College of Technology and Art” gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Bellach) 1992 (O.S. 1992/2097). Newidiwyd yr enw i “Coleg Sir Gâr” yn effeithiol o 5 Rhagfyr 2000.