xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn))
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed o dan adran 10 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 ("y Ddeddf"), yn dynodi Cynghrair y Cynghorau Sgiliau Sector yn 'awdurdod ardystio Cymru' i ddyroddi tystysgrifau prentisiaeth yn gyffredinol.
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhan o'r broses o roi'r rhaglen brentisiaethau statudol yn Rhan 1 o Bennod 1 o'r Ddeddf ar waith.