(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw'r trydydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Iechyd 2006 (“y Ddeddf”).

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yng Nghymru adran 34 o'r Ddeddf i'r graddau y mae adran 34 yn gymwys o ran Cymru. Mae adran 34 yn gymwys o ran Cymru a Lloegr. Mae'n mewnosod adran 42A (Pŵer i godi tâl: Lloegr) ac adran 42B (Pŵ er i godi tâl: Cymru) yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49). Mae adran 34 eisoes wedi ei chychwyn o ran Lloegr drwy O.S. 2006/3125 (a ddarparodd yn benodol na chafodd swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 42B o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 eu dwyn i rym drwy'r Gorchymyn hwnnw).

Mae adran 34 yn cynnwys pŵer sy'n galluogi taliadau i gael eu gwneud am geisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol.

Yn unol ag adran 208(4) a (5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42), effaith cychwyn adran 34 o'r Ddeddf fydd cychwyn adran 85 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Pŵ er i godi tâl).