xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
24 Ebrill 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 100 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 1) 2013.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
2. Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2013 i rym yw 26 Ebrill 2013, i'r graddau y maent yn ymwneud â gosod y Cod Trefniadaeth Ysgolion—
(a)adran 38 (cod trefniadaeth ysgolion);
(b)adran 39 (llunio a chymeradwyo cod trefniadaeth ysgolion);
(c)adran 97 (gorchmynion a rheoliadau); a
(d)adran 98 (dehongli'n gyffredinol a mynegai o ymadroddion sydd wedi eu diffinio).
3. Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2013 i rym yw 4 Mai 2013, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a)adran 97 (gorchmynion a rheoliadau); a
(b)adran 98 (dehongli'n gyffredinol a mynegai o ymadroddion sydd wedi eu diffinio).
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
24 Ebrill 2013
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dyma'r gorchymyn cychwyn cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”). Mae'r Gorchymyn yn dwyn i rym adrannau 38, 39, 97 a 98 o Ddeddf 2013 ar 26 Ebrill 2013 i'r graddau y maent yn caniatáu ar gyfer gosod a llunio Cod Trefniadaeth Ysgolion drafft. Bydd adrannau 97 a 98 o Ddeddf 2013 yn cael eu dwyn i rym yn llawn ar 4 Mai 2013.