Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn creu swydd Comisiynydd y Gymraeg ac yn diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae'r Mesur hefyd yn gwneud darpariaeth ynglŷn â throsglwyddo swyddogaethau'r Bwrdd i'r Comisiynydd.

Mae adran 154 (Darpariaeth drosiannol a darpariaeth ganlyniadol etc) o'r Mesur yn rhoi i Weinidogion Cymru y pwêr, drwy orchymyn, i wneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ganlyniadol a pha bynnag ddarpariaeth arall sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn angenrheidiol neu'n briodol mewn cysylltiad â'r Mesur neu i roi llwyr effaith iddo.

Mae is-adran (3) o adran 143 (Diddymu'r Bwrdd a throsglwyddo swyddogaethau) o'r Mesur yn rhag-weld y caiff Gweinidogion Cymru, mewn gorchymyn a wneir o dan adran 154 o'r Mesur, wneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo'r swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan adran 3 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 i Weinidogion Cymru, naill ai yn lle trosglwyddo'r swyddogaethau i'r Comisiynydd neu'n ychwanegol at hynny. Prif swyddogaeth y Bwrdd o dan adran 3 yw'r swyddogaeth o hybu a hwyluso'r defnydd o'r iaith Gymraeg.

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adran 154 o'r Mesur. Mae'n gwneud darpariaeth ynghylch trosglwyddo swyddogaethau'r Bwrdd, yn gwneud darpariaethau trosiannol ynglŷn â datganiad o gyfrifon ac adroddiad blynyddol olaf y Bwrdd ac yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth arall o ganlyniad i ddarpariaethau'r Mesur.

Mae erthygl 3 yn darparu bod y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan adran 3 o Ddeddf 1993, i'w trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn ychwanegol at eu trosglwyddo i'r Comisiynydd. Golyga hyn y bydd y Comisiynydd a Gweinidogion Cymru yn arfer y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan adran 3 o Ddeddf 1993. Mae paragraff 3 o Atodlen 12 i'r Mesur yn darparu, os trosglwyddir y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd o dan adran 3 o Ddeddf 1993 i Weinidogion Cymru, na fydd y darpariaethau canlynol o Ddeddf 1993 yn gymwys i'r swyddogaethau fel y byddant yn arferadwy gan Weinidogion Cymru, sef adran 3(2)(a) (darparu cyngor i Weinidogion Cymru ar faterion yn ymwneud â'r Gymraeg), adran 3(3) a (4) (pwerau i roi grantiau neu fenthyciadau ayyb ynghyd â chyfyngiadau ar y pwerau hynny) ac adran 4(1) (dyletswydd i gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru).

Mae erthyglau 4 a 5 yn darparu ynglŷn â llunio ac archwilio datganiad o gyfrifon y Bwrdd mewn perthynas â blwyddyn ariannol olaf y Bwrdd (sef o 1 Ebrill 2011 hyd at 31 Mawrth 2012) ac ynglŷn â llunio adroddiad blynyddol y Bwrdd ynghylch y modd yr arferodd ei swyddogaethau yn ystod yr un cyfnod.

Mae erthyglau 6 i 13 yn diwygio eitemau penodol o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, naill ai er mwyn hepgor cyfeiriadau at y Bwrdd neu'u disodli gan gyfeiriadau at y Comisiynydd fel y bo'n briodol ym mhob achos unigol.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Gorchymyn hwn wedi ei baratoi a gellir cael copi ohono gan Uned yr Iaith Gymraeg, Yr Adran Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.