Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31 (Cy.5), fel y'i diwygiwyd eisoes) er mwyn—

(a)caniatáu i hysbysiad camau cywiro gael ei gyflwyno mewn perthynas â sefydliad nad yw'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan ddeddfwriaeth hylendid bwyd Ewropeaidd (rheoliad 2(2)); a

(b)darparu i ddigollediad fod yn daladwy pan fo'r gweithredydd busnes bwyd yn cael colled drwy gydymffurfio â hysbysiad camau cywiro sydd, ar apêl i'r llys, yn cael ei ganslo wedyn (rheoliad 2(3)).

2.  Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.