Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31 (Cy.5), fel y'i diwygiwyd eisoes) er mwyn—
caniatáu i hysbysiad camau cywiro gael ei gyflwyno mewn perthynas â sefydliad nad yw'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan ddeddfwriaeth hylendid bwyd Ewropeaidd (rheoliad 2(2)); a
darparu i ddigollediad fod yn daladwy pan fo'r gweithredydd busnes bwyd yn cael colled drwy gydymffurfio â hysbysiad camau cywiro sydd, ar apêl i'r llys, yn cael ei ganslo wedyn (rheoliad 2(3)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.