2012 Rhif 975 (Cy.129)
BWYD, CYMRU

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2012

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion yr adran honno o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd2.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3 cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bu'r Rheoliadau a ganlyn yn cael eu paratoi.

Enwi a chychwyn1.

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 1 Mai 2012.

Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 20062.

(1)

Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 20064 wedi eu diwygio yn unol â'r paragraffau canlynol.

(2)

Ym mharagraff (1) o reoliad 9 (hysbysiadau camau cywiro a hysbysiadau cadw), hepgorer y geiriau “sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004”.

(3)

Ar ôl paragraff (3) o reoliad 22 (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella hylendid a hysbysiadau camau cywiro), ychwaneger y canlynol fel paragraff (4) newydd—

“(4)

Pan fo llys, ar apêl yn erbyn hysbysiad camau cywiro o dan baragraff (1), yn canslo'r hysbysiad, rhaid i'r awdurdod gorfodi ddigolledu'r gweithredydd busnes bwyd a ddygodd yr apêl mewn cysylltiad ag unrhyw golled a gafwyd oherwydd bod y gweithredydd busnes bwyd wedi cydymffurfio â'r hysbysiad, a bydd unrhyw gwestiwn dadleuol ynglŷn â'r hawl i gael unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan y paragraff hwn neu swm yr iawndal hwnnw yn cael ei benderfynu drwy gymrodeddu.”

Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31 (Cy.5), fel y'i diwygiwyd eisoes) er mwyn—

(a)

caniatáu i hysbysiad camau cywiro gael ei gyflwyno mewn perthynas â sefydliad nad yw'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan ddeddfwriaeth hylendid bwyd Ewropeaidd (rheoliad 2(2)); a

(b)

darparu i ddigollediad fod yn daladwy pan fo'r gweithredydd busnes bwyd yn cael colled drwy gydymffurfio â hysbysiad camau cywiro sydd, ar apêl i'r llys, yn cael ei ganslo wedyn (rheoliad 2(3)).

2.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.