Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (sydd wedi ei nodi yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S. 1992/129)) (“Cynllun 1992”) fel y mae'n cael effaith yng Nghymru, gydag effaith o 1 Ebrill 2012.
Mae'r diwygiad yn darparu ar gyfer cyfraddau gwahanol o gyfraniadau pensiwn sy'n daladwy gan aelodau Cynllun 1992 sy'n cynyddu yn ôl swm y cyflog pensiynadwy y mae'r aelod yn ei dderbyn. Pennir cyfraddau'r cyfraniadau ym mharagraff 3 o'r Tabl yn Rhan A1 o Atodlen 8 i'r Cynllun (fel y'i mewnosodir gan y Gorchymyn hwn).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Mae copi ar gael gan y Gangen Tân a'r Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 01685 729227.