Cychwyn2.

Daw darpariaethau canlynol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i rym ar 1 Ebrill 2012—

(a)

adrannau 2, 23, 138, 139 a 146 i'r graddau nad yw'r adrannau hyn eisoes mewn grym;

(b)

Atodlenni 1, 4 a 12 i'r graddau nad yw'r Atodlenni hyn eisoes mewn grym;

(c)

adrannau 3, 5 a 6;

(d)

adran 7 ac eithrio

(i)

isadrannau (2) a (6) lle mae'r isadrannau hynny'n ymwneud â Rhan 5,

(ii)

is-adrannau (3)(b), (4), (8) a (10);

(e)

Atodlen 2 ac eithrio paragraff 8(2)(a);

(f)

adrannau 8 i 10 a 12 i 15;

(g)

adran 16 ac eithrio isadrannau (2)(a) a (b);

(h)

adrannau 17 i 19;

(i)

cychwynnir Rhan 4 fel a ganlyn:

(i)

Penodau 2 i 5,

(ii)

Pennod 8, a

(iii)

Pennod 9 ac eithrio adran 69;

(j)

Atodlenni 5 i 9;

(k)

Rhan 6;

(l)

paragraffau 9 a 18 o Atodlen 11 ac adran 120(4) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny;

(m)

adrannau 134 i 137;

(n)

adran 140 ac eithrio'r canlynol:

(i)

isadran (1)(c), a

(ii)

isadrannau (1)(d) ac (e) lle mae'r isadrannau hynny yn cyfeirio at ymchwiliadau o dan Ran 5;

(o)

adran 141 ac eithrio'r canlynol:

(i)

isbaragraff (a) o'r diffiniad o “achwynydd”, a

(ii)

isbaragraff (b) o'r diffiniad o “ymchwiliad”;

(p)

adrannau 142, 143, 144(3)(b) a 147.