(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan adran 108(2)(b)(iii) o Ddeddf Addysg 2002 caiff Gweinidogion Cymru bennu drwy orchymyn unrhyw drefniadau asesu sydd yn eu barn hwy yn briodol i'r cyfnod sylfaen. Mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu wrth Dderbyn i'r Cyfnod Sylfaenol) (Cymru) 2011 (“Gorchymyn 2011”) yn nodi'r trefniadau hynny. Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn 2011.