2012 Rhif 899 (Cy.119)
CARTREFI SYMUDOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl) (Cymru) 2012

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 229(3) a (4) a 250(2) o Ddeddf Tai 20041 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Mae drafft o'r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 250(6) o Ddeddf Tai 2004 a pharagraff 34 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.