Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rhagnodi'r swm y mae awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (“y Ddeddf”). Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y Rheoliadau Asesu”) a Rheoliadau Cymorth Gwladol (Llety Preswyl) (Taliadau Ychwanegol, Cyfraniadau Perthnasol ac Asesu Adnoddau) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”). Deuant i rym ar 9 Ebrill 2012.

Mae adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, wrth asesu gallu person i dalu am lety o dan Ran 3 o'r Ddeddf, ragdybio, yn niffyg anghenion arbennig, y bydd angen swm rhagnodedig ar berson at ei anghenion personol bob wythnos. Mae rheoliad 2 yn rhagnodi £24.00 fel y swm sydd ei angen at anghenion personol o dan adran 22(4).

Mae rheoliad 3 yn dirymu rheoliad 2 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2011 a oedd gynt yn rhagnodi'r swm at anghenion personol o dan adran 22(4).

Mae rheoliad 4 yn diwygio'r Rheoliadau Asesu fel bod y terfyn cyfalaf a nodir yn rheoliad 20A yn newid i £23,250.

Mae rheoliad 5 yn gwneud rhai diwygiadau technegol i Reoliadau 2003. Yn flaenorol, yr oedd dau derfyn cyfalaf, terfyn isaf a therfyn uchaf, a oedd yn cael eu defnyddio i asesu gallu unigolyn i dalu am lety o dan Ran 3 o'r Ddeddf. Yng Nghymru, yn rhinwedd Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2010, rhoddwyd un terfyn cyfalaf yn lle'r ddau derfyn cyfalaf. Mae rheoliad 5 yn dileu cyfeiriadau at y terfyn isaf sy'n aros yn Rheoliadau 2003.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Is-adran Polisi Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion, Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.