Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn adran 46 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006. Mae'r adran honno yn ymwneud â Gweinidogion Cymru'n rheoleiddio gweithgaredd amaethyddol anawdurdodedig.

Pan fo'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod person yn gwneud (neu'n achosi gwneud) gweithgaredd amaethyddol anawdurdodedig penodol ar dir sydd wedi ei gofrestru fel tir comin / maes y dref neu faes y pentref sy'n ddarostyngedig i hawliau comin, caiff y gweithgaredd amaethyddol anawdurdodedig ei reoleiddio os yw naill ai'n niweidiol i fudd y cyhoedd neu'n niweidiol i fuddiannau'r personau sydd yn meddu ar hawliau naill ai mewn perthynas â'r tir dan sylw, neu'n meddiannu'r tir hwnnw.