xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 30 Ebrill 2012, ddarpariaethau canlynol Deddf Cynllunio 2008 o ran Cymru, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
adran 188 (gorchmynion datblygu lleol: dileu'r gofyniad i weithredu polisïau);
adran 197 ac Atodlen 11 (apelau: diwygiadau amrywiol); ac
adran 238 ac Atodlen 13 i'r graddau y maent yn rhoi effaith i'r diddymiadau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, sy'n ymwneud â gorchmynion datblygu lleol.