Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 30 Ebrill 2012 o ran Cymru

2.  Bydd darpariaethau canlynol Deddf Cynllunio 2008 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yn dod i rym o ran Cymru ar 30 Ebrill 2012—

(a)adran 188;

(b)adran 197 ac Atodlen 11; ac

(c)adran 238 ac Atodlen 13, i'r graddau y maent yn rhoi effaith i'r diddymiadau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.