(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn cydgrynhoi gydag addasiadau ddarpariaethau Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 (“Gorchymyn 1995”) ac offerynnau diwygio dilynol, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'n cynnwys hefyd ddarpariaethau mewn perthynas â chymhwyso'r Gorchymyn hwn i'r Goron, sef darpariaethau tebyg i'r rheini yn erthygl 4 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol ac Addasiadau sy'n ymwneud â Thir y Goron) (Cymru) 2006 (“Gorchymyn 2006”) a oedd yn addasu Gorchymyn 1995. O ganlyniad, dirymir erthygl 4 o Orchymyn 2006.
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer gweithdrefnau mewn cysylltiad â cheisiadau cynllunio, ymgyngoriadau ynglŷn â cheisiadau cynllunio, penderfynu ceisiadau cynllunio, apelau, gorchmynion datblygu lleol, tystysgrifau cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad, cynnal cofrestri o geisiadau cynllunio a materion cysylltiedig.
Y prif newidiadau yw:
diweddaru neu ddileu cyfeiriadau at gyrff nad ydynt bellach yn bodoli, neu gyrff y trosglwyddwyd eu swyddogaethau i gyrff eraill cyn gwneud y Gorchymyn hwn (erthygl 14 a'r Tabl yn Atodlen 4).
mae erthygl 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ffurf a chynnwys ffurflenni cais am ganiatâd cynllunio. Yn benodol, mae'n darparu ar gyfer gwneud ceisiadau am ganiatâd cynllunio ar ffurflen safonol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.
mae erthygl 11 yn darparu bod tystysgrifau mewn perthynas â hysbysiadau o geisiadau am ganiatâd cynllunio i'w gwneud mewn ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.
mae erthygl 14 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ymgynghori cyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy'n dod o fewn categori a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4. Mae paragraff (v) o'r Tabl yn pennu, yn achos datblygiad sy'n cynnwys gosod arwyneb artiffisial, arwyneb o waith llaw, neu arwyneb cyfansawdd yn lle arwyneb o laswellt ar lain chwarae mewn maes chwarae, mai'r ymgynghorai priodol yw Cyngor Chwaraeon Cymru. Diwygir y diffiniad o “llain chwarae”.
mae erthygl 22, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer y cyfnodau o amser a ganiateir i awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer penderfynu ceisiadau am ganiatâd cynllunio, yn pennu'r hyn sy'n cyfansoddi cais dilys. Mae'r cyfnod o amser a ganiateir i awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer penderfynu cais yn dechrau gyda'r diwrnod y ceir y cais.
mae erthygl 27 yn darparu ar gyfer paratoi, gwneud a dirymu gorchmynion datblygu lleol gan awdurdodau cynllunio lleol, ac yn pennu'r math o ddatblygu na chaiff gorchmynion datblygu lleol roi caniatâd datblygu ar ei gyfer. Mae erthygl 29 yn darparu ar gyfer cofrestri o orchmynion datblygu lleol.
Ceir darpariaethau trosiannol ac arbedion (erthygl 33) yn ogystal â mân ddiwygiadau a diwygiadau drafftio.
Paratowyd asesiad effaith mewn cysylltiad â'r offeryn hwn. Gellir cael copïau ohono gan Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.