Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012
2012 Rhif 801 (Cy.110)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 61(1), 61A, 62, 65, 69, 71, 74, 77, 78, 79(4), 188, 193, 196(4), 293A a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901 a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 1A, ac Atodlen 4A i'r Ddeddf honno, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2 a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 88 a 122(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 20043, sydd hefyd bellach yn arferadwy ganddynt hwy4, yn gwneud y Gorchymyn canlynol: