RHAN 2Ceisiadau
Darpariaethau cyffredinol ynglŷn â cheisiadau8.
(1)
Pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn cael—
F1(a)
cais sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 5;
(b)
pan wneir cais mewn perthynas â thir y Goron, y dogfennau sy'n ofynnol gan erthygl 6;
F2(ba)
mewn achos y mae erthygl 2F yn gymwys iddo, yr adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio sy’n ofynnol gan yr erthygl honno;
(c)
mewn achos y mae erthygl 7 yn gymwys iddo, y datganiad dylunio a mynediad F3...;
(ch)
mewn achos y mae erthygl 9 yn gymwys iddo, y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol gan yr erthygl honno;
(d)
y dystysgrif sy'n ofynnol gan erthygl 11;
(dd)
(e)
unrhyw ffi y mae'n ofynnol ei thalu mewn perthynas â'r cais,
rhaid i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon at y ceisydd i gydnabod y cais yn y termau a bennir yn Atodlen 1 (neu dermau o'r un sylwedd).
(2)
Nid yw paragraff (1)(dd) yn gymwys ac eithrio—
(a)
pan fo'r cais ar gyfer datblygiad mawr; a
(b)
yr awdurdod cynllunio lleol, cyn bo'r cais yn cael ei wneud, yn cyhoeddi rhestr o ofynion ar ei wefan at ddibenion erthygl 22(3); ac
(c)
y manylion y gofynnir gan yr awdurdod am eu cynnwys yn y cais, neu'r dystiolaeth y gofynnir am ei chynnwys, yn dod o fewn y rhestr honno.
F4(3)
Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn nad yw unrhyw ffi, y mae’n ofynnol ei thalu mewn perthynas â’r cais, wedi ei thalu (ac eithrio pan fo siec wedi ei dychwelyd a pharagraffau (2)(c) a (3)(e) o erthygl 22 yn gymwys) rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad hysbysu’r ceisydd o swm y ffi y mae’n ofynnol ei thalu a sut y gellir ei thalu
F5(3)
Os yw’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn bod adran 62ZA(2) o Ddeddf 1990 yn gymwys i’r cais, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad a roddir yn unol ag adran 62ZA(2) o Ddeddf 1990 hysbysu’r ceisydd ynghylch—
(a)
yr hawl i apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990, a
(b)
y terfyn amser yn erthygl 24C(2) ar y cyfnod a ganiateir i’r ceisydd ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl.
(4)
Yn yr erthygl hon, mae cais yn annilys os nad yw'n gais dilys o fewn ystyr erthygl 22(3).