RHAN 2Ceisiadau

Datganiadau dylunio a mynediadF17.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae paragraff (3) yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio—

(a)

ar gyfer datblygiad mawr;

(b)

pan fo unrhyw ran o’r datblygiad mewn ardal ddynodedig, ar gyfer datblygiad a gyfansoddir o—

(i)

darparu un neu ragor o dai annedd; neu

(ii)

darparu adeilad neu adeiladau lle mae’r arwynebedd llawr a grëir gan y datblygiad yn 100 metr sgwâr neu ragor.

(2)

Nid yw paragraff (3) yn gymwys i—

(a)

cais adran 73;

(b)

cais am ganiatâd cynllunio—

(i)

ar gyfer gweithrediadau mwyngloddio;

(ii)

ar gyfer newid sylweddol yn y defnydd o dir neu adeiladau; neu

(iii)

ar gyfer datblygiad gwastraff.

(3)

Rhaid i gais am ganiatâd cynllunio y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad (“datganiad dylunio a mynediad”) sy’n cydymffurfio â pharagraff (4).

(4)

Rhaid i ddatganiad dylunio a mynediad—

(a)

esbonio’r egwyddorion a chysyniadau dylunio a gymhwyswyd i’r datblygiad;

(b)

dangos pa gamau a gymerwyd i arfarnu cyd-destun y datblygiad a’r modd y mae dyluniad y datblygiad yn cymryd i ystyriaeth y cyd-destun hwnnw;

(c)

esbonio’r polisi neu’r dull a fabwysiadwyd o ran mynediad, a’r modd y mae’r polisïau ynglŷn â mynediad yn y cynllun datblygu wedi eu cymryd i ystyriaeth; ac

(ch)

esbonio sut y rhoddwyd sylw i faterion penodol allai effeithio ar y datblygiad.

(5)

Ym mharagraff (1) ystyr “ardal ddynodedig” (“designated area”) yw—

(a)

ardal gadwraeth; neu

(b)

eiddo sy’n ymddangos yn Rhestr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ar Amddiffyn Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd 1972 (Safle Treftadaeth y Byd).