RHAN 2Ceisiadau

Ceisiadau mewn perthynas â thir y Goron6.

Rhaid cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio mewn perthynas â thir y Goron ynghyd ag—

(a)

datganiad i'r perwyl y gwneir y cais mewn perthynas â thir y Goron; a

(b)

os gwneir y cais gan berson a awdurdodwyd mewn ysgrifen gan yr awdurdod priodol, copi o'r awdurdodiad hwnnw.